YR AFFRICANWR A'l DIR Gan DAFYDD ORWIG JONES (Trosiad ydyw hwn o ysgrif gan G. McJames Walters yn Information Digest yr Africa Bureau" rhif 9, Meh.-Gorff. 1953. Geilw ei ysgrif yn Her i ail-feddwl polisi trefedigaethol." Sefydlwyd yr Africa Bureau i gasglu ac i ledaenu gwybodaeth am yr hyn a ddigwydd yn Affrica. Ar ei Bwyllgor Gwaith ceir pobl fel yr Arglwydd Hemingford, yr Arglwyddes Pakenham a'r Parch. Michael Scott. Cyfeiriad y Biwro ydyw 69, Great Peter Street, S.W.I. Nid oes rhaid inni ei ddal yn gyfrifol am bob gosodiad sydd yn yr ysgrif hon.) DYFODIAD yr Ewropeaid i Affrica yw prif achos dinoethi'r tir yno. Ni byddai dweud hyn yn beth o bwys oni bai am y ffaith mai'r gwrthwyneb a gymerir yn ganiataol ac a ddefnyddir i gyfreithloni estroni tir gan gau allan yr Affricaniaid. Yn Nhŷ'r Arglwyddi, Ebrill 2, 1953, dywedodd yr Arglwydd Hudson am y Bantw iddo fyw, cyn belled ag y gwyddem, gan gam-drin y pridd a'i adael yn agored i'w ddinoethi, ac yna symud oddi yno. Honnai'r Arglwydd Hudson ei fod yn siarad fel arbenigwr, a rhoes y ddadl hon fel un cyfiawnhad o'r polisi tir y cyfeiriwyd ato. Yn y nodyn hwn, bwriedir dangos bod y ffeithiau yn hollol groes i'r hyn yr hoffai'r Arglwydd Hudson inni gredu, ef a'r rhai a sieryd yn debyg iddo. Yn ei ffurf symlaf, cyfundrefn o gylchnewid cnydau ydyw amaethu symudol, â chylchdro weithiau o gymaint â 30 mlynedd, a gellir ei ddisgrifio yn fyr fel cyfres o orchwylion. Yn y gyntaf, clirir y goedwig, nid trwy ddinistrio'r coed yn gyfan gwbl, eithr drwy eu torri nes eu bod rhwng pedair a chwe throedfedd uwch- law'r llawr. Llosgir y coed a dorrir, gan ledaenu'r lludw dros y mannau a gliriwyd, oherwydd prin iawn, fel rheol, ydyw pridd- oedd y trofannau o'r potash sydd yn y lludw. Yn yr ail gyfnod, plennir cnydau cymysg yn y mannau a gliriwyd, gan ymyrryd cyn lleied ag y bo modd yn y pridd. Sicrha'r cnydau hyn haen amddiffynnol o dyfiant dros y pridd ar hyd y flwyddyn. Wedi rhyw dair neu bedair blynedd, daw lleihad yng nghynnyrch y cnydau, a rhoir y gorau i'w hamaethu. Yn y trydydd cyfnod, gadewir y coed i ail-dyfu, a gall y cyfnod hwn o fraenaru gymryd rhwng 25 a 30 mlynedd. O dan y drefn