Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EDWARD WOOD A'R DADGEINIAID Gan J. GLYN DAVIES CIPSIONYN Cymraeg oedd Edward Owen yn byw yn y Bala. Gwr byr teneu, heb fod yn eiddil, gewynog, pryd tywyll trwyn bwaog-nid crwbi-gwefl isaf lac, a golwg felancolaidd braidd arno. Yr oedd yn medru Cymraeg yn dda. Mewn gair Indiad Cymraeg oedd. Ganed ef yn 1838, a bu farw tua 1908. Daethum iw adnabod yn 1893, y Sulgwyn, pryd yr aeth Mr. W. D. Owen, Walton, yn awr Porth y Waen, y Bala, a mi a chlwm o ffrindiau o Lerpwl i fwrw'r Sul a'r Llun yn Ngwesty Miss Jones, Derfel Gadarn, Llandderfel. Y mae genyf syniad mai trwyddo ef, ar y daith hono, y daethum i adnabod Thomas Jones, Bryn- melyn, Tom Ellis, Cynlas, David Daniel, Fourcrosses, Robert Evans Cryniarth ei haner brawd, a Tom Davies, Cwmchwilfod pob un yn seren ddisglaer yn ei ardal mewn unrhyw ardal o ran hyny. Ni welais neb erioed at Mr. W. D. Owen am ddyfod a phobl o gyffelyb chwaeth at ei gilydd. Y nos Sadwrn aeth a mi, a dau neu dri heblaw i gefn gwesty yn y Bala (Plas Coch ?) lle'r oedd cwrt helaeth wedi ei doi. Yr oedd tyrfa o bobl yno yn rhythu ar ddau wr ifanc sionc mewn clos pen glin a sanau gleision a sgidiau bach, yn ymryson dawnsio Dawns coes brwsh," a thelyn deirrhes yn cadw'r amser. Gwelwn David Daniel a Tom Ellis wrth y drws yn rhythu llygaid syn. Yr oeddym oll yn edrych ar ddarn o hen fyd oedd wedi diflanu o'r wlad agos yn llwyr darn o'r ddeunawfed ganrif. Edward Wood oedd y telynor, a Chroen y ddafad felen,maih o anthem gron ddiddiwedd oedd y dôn. Mae cof genyf mai Pyrs Cwm Onen oedd enw un o'r dawnswyr. Ni welais ddau erioed mor ystwyth ar eu berau, nac yn stepio mor ysgafn. Gwn drwy brofiad wedyn mor anodd oedd dal ati am fwy na rhyw ddeng munud, nid o herwydd dim byd cymhleth yn y stcpiau. ond am eu bod mor uchel. Wrth ymryson, y gamp oedd gorphen gyda'r dôn ar droed neillduol-pa'r un nid wyf yn cofio. Chwedl yr hen glerigwm, Croen y ddafad felen, tu gwrthwyneb allan, troed yn ol a throed ymlaen a phrun sydd olaf rwan." Yr oedd golwg ryfedd ar y lIe, y dawnsio yn mynd yn mlaen yn ddiflino, ac Edward Owen a'i ben ar fol ei delyn wrth y cildanau yn cysgu'n drwm, a'i fyâedd yn gwibio yn ol ac ymlaen heb faglu dros yr