hithau, a'r ferch yr un modd (ond cafodd hi ei harian yn ôl pan fu farw ei thad), a phawb. Pobl gymharol dlodion oedd y rhan fwyaf o'r Teulu, ond yr oedd un neu ddau o ffermwyr da eu byd a chwanegodd gryn dipyn at yr adnoddau cyffredin. Yr oedd Harris er yn fore-¾tua 1736-wedi bod yn breuddwydio am sefydliad o'r fath, pan ddarllenodd am gymdeithasau cyffelyb yn yr Almaen ac yn y cyfamser yr oedd y Morafiaid wedi plannu sefydliadau cyffelyb mewn mwy nag un man yn Lloegr, y gwyddai Harris amdanynt. O ran hynny, ni bu ond y dim i'r Morafiaid, tua 1770, godi cymdeithas o'r fath ym Mlaenau Tywi, yr union ardal y mae sôn heddiw am ei throi'n goedwigoedd. Ni ddaeth dim o fwriad y Morafiaid yno ond fe gafodd Teulu Trefeca ei draed dano, a chyhyd ag y bu Hywel Harris fyw, fe fu'n bur llwyddiannus. Crefydd, wrth gwrs, oedd canolbwynt bywyd hen Deulu Trefeca, ac yr oedd yn union ar gynllun mynachlog, ond bod yno wragedd a phlant. Codai pawb ond y plant am bedwar o'r gloch y bore at eu brecwast, a chyfarfod gweddi ar ei ôl. Am chwech, at eu gwaith hyd hanner dydd wedyn cinio, a phregeth ar ôl hwnnw, hyd ddau o'r gloch. Gweithio wedyn hyd hanner awr wedi wyth, a phregeth hyd naw. Am naw, swper ac ar ôl swper byddai Harris yn cadw seiat ac yn holi profiadau pawb. I'r gwely am ddeg. Moddion gras, fel y gwelwch, bedair gwaith yn y dydd, ac wrth gwrs drwy'r Sul ar ei hyd. Ond sôn am y giuaith y byddwn ni yma. Y mae'n rhaid, fel y dywedais, i bawb gael bwyd o rywle, a threfniadau Hywel Harris at gyn- haliaeth y Teulu yw'r hyn sy'n gwneud hanes Trefeca'n ddiddorol hyd yn oed i'r sawl ohonom nad yw'n neilltuol hoff o fynychu llan neu dŷ-cwrdd. Y mae dau beth i'w cofio cyn dechrau ar yr hanes. Un ydyw natur eithriadol iawn Hywel Harris ei hunan. Gwyddoch mai trefnydd oedd ef yn anad unpeth arall-tel John Wesley, yr oedd ynddo ysfa i gael popeth yn daclus. Fel trefnydd y gadawodd ef ei ôl hyd heddiw ar y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru. Ac yn awr, dyma ef wedi troi ei gefn, am ddeuddeng mlynedd beth bynnag, ar Gyfundeb y Methodistiaid, ac wedi troi'n ffarmwr ar raddfa bur helaeth. Wel, gellir dibynnu ar un peth nid â synnwyr bawd yn unig y bydd ef yn mynd at j gwaith hwnnw. Nid rhwygo'r tir ag aradr bren, a bwrw rhywbeth-rywbeth i mewn iddo, a'i lytnu'n anniben-nid prynu gwartheg a defaid