Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYWEL HARRIS Y FFARMWR GAN R. T. JENKINS /HWI glywsoch y stori, efallai, am y ffarmwr bach yn ochrau'r Bala a oedd wedi prynu coed afalau heb wybod yn iawn sut i'w plannu. Ar stondin yn ffair y Bala, fe welodd lyfr, Plannu Coed, gan Elfed, ac fe'i prynodd â llawenydd mawr. Ond wedi ei agor ar ôl te, y peth cyntaf a welodd oedd testun y bregeth agoriadol "Ac Abraham a blannodd goed Meddai yntau'n syn Wel, be ar y ddaear wydde'r hen Abram am blannu coed ? Yn yr un modd, fe all rhai ohonoch chwithau furmur Be ar y ddaear wydde'r hen Hywel Harris am ffarmio ? "-oblegid fel pregethwr mawr y byddwn fel rheol yn meddwl amdano ei. Ac eto, y mae llawer offeiriad neu bregethwr, fel y dylem gofio, wedi bod yn ffarmwr da iawn, mewn oes pan oedd hi'n ofynnol i offeiriad helpu tipyn ar ei ddegwm llwm gan drin tir y persondy, a phan nad oedd gweinidog yn cael ond y nesaf peth i ddim cyflog ac yn gorfod tyfu ei fwyd ei hun. 0 ran hynny, ganrifoedd lawer yn ôl, felly y byddai'r mynaich yn byw pan sefydlwyd mynach- logydd gYlltaf-y Mynaich Gwynion, onid e, sy'n gyfrifol, yn y pen draw pell, am amlder defaid a phwysigrwydd gwlân yng Nghymru. Y mae'n rhaid i'r duwiolaf ohonom gael tamaid rywsut. Eto i gyd, ar ddamwain yr aeth Hywel Harris yn ffarmwr — a damwain drist ar lawer golwg, sef ffrae fawr rhyngddo ef a'i gyd-Fethodistiaid, 0 1750 hyd 1762. Yn y ffrae honno, fe bwdws Harris, fel y bydd pobl y De'n dweud, ac fe dorrodd bob cyswllt â'i hen gyfeillion, yr arweinwyr Methodistaidd. Ymneilltuodd i'w gartre yn Nhrefeca, a chasglodd o'i gwmpas yno gynifer ag a allai o bobl o bob rhan o Gymru a oedd o'i blaid ef, i fyw'n dawel a chytûn, yn un teulu mawr. Yn wir, Y Teulu oedd yr enw a roddwyd i'r sefydliad rhyfedd hwn. Ar brydiau, yr oedd cynifer â chant a hanner o aelodau ynddo, yn W)7, yn wragedd, ac yn blant, ac yr oedd y cyfartaledd yn gant y flwyddyn. Megis yn y mynachlogydd gynt, yr oedd yn rhaid i bob un a ymunai fwrw y cwbl o'i eiddo i'r drysorfa gyffredin-Hywel Harris ei hun yn rhoi'r cwbl o'i arian, a'i wraig yn rhoi ei harian