Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac fe aeth sugar cane yn siwgr cên yn lle "cên siwgr Beth amser yn ôl, bu Ifor Williams, Henry Lewis, Edwin Owen, etc., yn trafod termau technegol Cymraeg ar y radio, a chafwyd rhai termau y gallasai awduron y llyfr hwn fod wedi elwa arnynt. Ffidil denor am viola, er enghraifft, a'r gair persain arwein- gerdd am overture, yn Ue'r gair hyll, artiffisial, agorawd." Diolch am y llyfr hwn hyd yn oed fel y mae, ond yn wir y mae mawr angen am ei ddiwygio. D.T. Llyfr Adar, a Llyfr Anifeiliaid. Gwasg y Brython. 3 /6 yr un. Trysorau'r Traeth. Hughes a'i Fab. 4/ Y cwbl gan T. G. Walker. Dyma dri llyfr y gellir eu darllen o glawr i glawr heb eu rhoddi o'r neilltu, ar yr aelwyd ar hwyrnos gaeaf, neu ar fainc y traeth ar hwyrddydd haf. Er mai i blant mewn modd arbennig y cyf- lwynir hwy, y mae diddordeb i bawb ynddynt. Yr oedd yr Adar- wr yn enwog gynt, ac yn Nolgellau y canwyd ei glod gan un o feirdd enwocaf yr amser, Rhys Jones o'r Blaenau. Y mae'r darluniau-lIiwiedig yn y ddau gyntaf, a du a gwyn yn y trydydd- o adar ac anifeiliaid y môr yn nodedig o werthfawr i blant a phobl mewn oed eu hadnabod. Gwerthfawr hefyd ydyw cael rhestr o'u henwau yn Gymraeg a Saesneg. Wedi darllen a deall cynnwys y llyfrau hyn, bydd pawb yn sicr o fod yn Uawer goleuach eu gor- welion ym myd Natur. Bodlonir meddwl y darllenydd fod yr awdur wedi datrys y dirgelion am adar yr awyr ac anifeiliaid y maes, a'u hegluro yn y modd mwyaf deniadol posibl mewn geiriau dethol. Y mae hud arfordir Môn, a'i ramant, yn y trydydd llyfr, ac nid oes dim a welir ac a glywir yno wedi dianc o sylw'r awdur, a dreuliodd oriau i fodloni ei ddiddordebau arbennig ei hun. Y mae'r cynnwys mewn saith bennod yn drawgar i bawb a'i darlleno, à swyn yr ystori yn cydio yn y cof fel y gragen yn y graig. PETER W. LLOYD