Ydyw, y mae'n edrych ar yr Oes-" ei bas dduwioldeb a'i hoferedd hy," ond yn edrych yn neilltuol ar les misérables, y rhai truain. Yn wir, yr oedd ganddo'r gynneddf a'r gydwybod a all- asai ei wneud yn nofelydd neu ddramaydd i fywyd cefn gwlad Cymru, sef y Gymru wir. Y mae mwy o adlais drama galed ein cefn gwlad ym marddoniaeth Prosser Rhys nag yn unman y gwn i amdano. Fe âi ei fyfyr yn fynych at yr hen Dyn a daear sy'n anghofio'n greulon Am yr hardd ieuenctid a fu gynt i'r hen. Fe wyddai Prosser Rhys nad oedd ef ei hun yn debyg o fyw'n hen. Nid oedd yn gwybod a gâi fyw i fod yn un ar hugain ai peidio. Efallai mai dyna paham y mae'n gweled rhyfeddod pob moment, ac yn dodi rhai ohonynt ar gadw am byth—dau sein dwy dafarn yn gwichian, sẃn troed ar y palmant, cath ddu ar y promenâd, organydd ty pictiwrs yn Llandudno. Aroglau hefyd— aroglau gwair a phridd a mawn, megis ym mhryddest Atgof. (Ar y llwyfan ym Mhont-y-pwl fe ofynnodd Tywysog Cymru i Prosser Rhys pa faint o amser a gymerodd Atgof i'w hysgrifennu. Pedwar Sul, syr," meddai yntau). Fe ellid dweud bod peth o flas ei ddydd a'i awr ar waith Prosser Rhys. Byddai'n darllen yn helaeth ar farddoniaeth a rhyddiaith Saesneg. Thomas Hardy oedd ei faes am gyfnod, ac yr wyf yn ei gofio'n dweud amdano'i hun, Rhyw Jude the Obscure fel fi." Ond annoeth fyddai myned yn rhy bell ar y llinell hon, canys beiddiodd ganu â'i lais ei hun ei gân ei hun." Y mae'n dweud yn un o'i sonedau fod Duw wedi ei ordeinio yntau'n dduw o ran gallu clywed pethau, ond bod mynegi'n ormod iddo. Ac meddai Cofia wae Dy fudan dduw, o Dduw y duwiau rhin, A maddau ddagrau yn Ue geiriau gwin. Ond, wrth gwrs, o ddagrau y gwneir barddoniaeth, ac am y rheswm hwn y mae barddoniàeth Prosser Rhys yn well na thri chwarter cynnyrch prydyddol ei oes. Y mae'r iaith yn eirias oddi ar yr eingion wedi ei morthwylio yn y tân. Yr oedd yn ei galon gun gymaint i'w ddweud, ac yr oedd ganddo gyn lleied o amser i'w ddywedyd, a phob glyn yn lyn cysgod Angau.