Mi gyfarfûm innau â B. T. Hopkins yng nghartef Prosser Rhys, yn y mwg mawn. Ni ddaeth J. M. Edwards ar draws fy llwybr, ond yr wyf yn falch mai hen gydnabod fel ef sydd wedi golygu'r gyfrol newydd hon o waith Prosser Rhys. (Gresyn na bai blwyddyn geni Prosser Rhys, a blwyddyn ei farw, wedi eu nodi rywle ar y gyfrol). Yr wyf yn teimlo mai crynedig, braidd, ydyw J. M. Edwards wrth geisio pwyso nerth a gwerth barddon- iaeth Prosser Rhys. Beiddiodd ganu â'i lais ei hun ei gân ei hun," meddai. Do'n wir, ac onid ydyw hyn yn beth mawr i gychwyn arno ? Pa mor fynych y bydd awdur yn dywedyd yr hyn y mae'n ei deimlo yn hytrach na'r hyn y tyb y dylai ei deimlo ? Ond yr oedd Prosser Rhys yn gadael i'w berson ei fwrw ei hun i maes heb gelu dim; ei dywallt ei hun allan heb gywilydd, yn ei holl amherffeithrwydd daearol, fel salmydd. Mae'n wir na ellid byth osod Cerddi Prosser Rhys yn set book yn yr ysgolion eilradd. Mae Testament Prossser Rhys mor anaddas i hynny â llawer o'r Hen Destament. Eithr wele boen y byd. Wele ysgytwad a brath. Fel dŵr y pwll y mae'n bucheddau i gyd Yn lân ac aflan ar yn ail o hyd. Mae'n edrych ar droeon yr yrfa-ar ryfedd ddysg yr yrfa mewn troeon doeth a ffôl." Gweled ôl pechod yn. y cartref, ôl pechod yn y byd, ac ymweliad pechodau'r tadau ar y plant. Pand ofer tyngu'r llw yng ngwyddfod Duw A ni heb wybod hyd a lled ein chwant, A chicio'r tresi ffôl tra fyddwn byw, A'u cicio, wedi'n inyned, gan ein plant ? Cerdd y Pedwar Cythraul ydyw pryddest Y Tloty (a wobrwywyd mewn eisteddfod yng Nghaernarfon dan feirniadaeth Cynan). A phwy ydyw'r pedwar ? Cybydd-dod, Diogi, Anlladrwydd, Twyll-ei dalfyriad ef ei hun o saith bechod marwol yr Eglwys. A dwfn ydyw ei.gydymdeimlad ag ysglyfaeth pob un o'r pedwar­ yr hen, y tramp, y ferch ifanc, y.babi, yr oferwr, y meddw. Pe rhoddai'r Oes ei henaid hithau i'r Crist A mynd i gymod sicr â'r cread maith, Ni byddai'r tlodion yn y Tloty trist, Na'r pedwar Cythraul wrth eu haflan waith.