TESTAMENT PROSSER RHYS GAN JOHN EILIAN Cerddi Prosser Rhys, wedi eu dethol, gyda rhagymadrodd gan J. M. Edwards. Gwasg Gee. 4/ VR ymadrodd y bydd dyn ieuanc yn ei furmur yn ei galon ydyw barddoniaeth llenyddiaeth yn unig ydyw'r gweddill i gyd. Yr oedd ymadroddion calon Prosser Rhys yn daer, daer. Bu farw ychydig flynyddoedd yn ôl, ym mlodau ei ddyddiau, ac nid oes neb o'i genhedlaeth mor deilwng o'i gofio fel hyn — that in black ink my love shall still shine bright." Buom ein dau'n gyfeillion. Buom yn crwydro llawer yn y wlad y tu cefn i Aberystwyth, yn meddwl ac yn teimlo ac yn yfed llên, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw­a minnau'n ysgrifennu o dan yr enw J. T. Jones-y cyhoeddwyd Gwaed Ifanc, ein cyfrol fach gytûn ni o ganu ieuengoed. Er byw yn Aberystwyth, ynghanol gwaith swyddfa, ac er ymdroi ar ymylon y coleg, i gefn gwlad Ceredigion yr oedd Prosser Rhys yn perthyn, ac yr oedd rhyw newydd swyn yn hynny i fachgen o Fôn fel fi. Mewn rhagair i CerddiW Bore, cyfrol o fardd- oniaeth J. M. Edwards, fe sgrifennodd Prosser Rhys fel hyn Yng nghanolbarth Ceredigion y mae pentref cysgodol, ffrwythlon Llan Rhystyd y mae yn ymyl y Bau, ac eto allan o'i olwg. Dair milltir i fyny'n union yn y wlad y mae ardal lom, fryniog, gorsiog Mynydd Bach Llyn Eiddewn. Dair milltir union arall yn fwy fyth i ganol y wlad, y mae bro eang, isel ac uchel Blaen Pennal. Yn yr un pen-­ym Mlaen Pennal—y mae prydydd o amaethwr ifanc yn byw, a'i enw B. T. Hopkins. Yn y pen arall-^yfi Llan Rhystyd-y mae J. M. Edwards. Ac yn y canol, rhwng y ddau, y mae fy nghartef innau. Nid nyni'n unig sy'n coledd Llên rhwng Llan Rhystyd a Blaen Pennal ond, rywsut, glynasom ni ill tri yn bur glos gyda'i gilydd ers blynyddoedd bellach. Cawn seiadau yn weddol fynych, ac yn fy nghartref anhygyrch i y bydd y drindod ddi-brifysgol gennym yn cyfarfod."