Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gymraeg. Ymddiheurir yn y rhagymadrodd am y diffyg cymesur- edd. Yn ail, wynebwyd Arthur ap Gwynn â dewis annymunol. Ni chytunai â'r cyfystyron Cymraeg a roesai ei dad ar gyfer rhai termau a geiriau technegol, ond ni fedrai o barch i'w dad eu dileu. Dyna sy'n cyfrif am barau fel S. anthropology," dynofyddiaeth, anthropologi. Ni cheir na dynofyddiaeth nac anthropologi yn yr adran gyntaf. Mewn gwirionedd, dylid dileu dynofydd- iaeth o'r ail adran a'i gynnwys yn yr adran gyntaf er mwyn helpu'r sawl na wyr ei ystyr pan ddigwydd mewn rhyw lyfr neu'i gilydd. Mae rhoi dynofyddiaeth yn yr ail adran yn debyg o beri i blant a phobl eraill ei ddefnyddio. Mae'n dda fod Arthur ap Gwynn yn ddigon iach yn y ffydd eiriadurol i dderbyn benthyciadau uniongyrchol fel anthropologi a'i debyg, yn enwedig pan fo'r geiriau hynny yn rhan o dreftad- aeth Ewrop a'r byd. Cerddasom ymhell o'r dyddiau pan dybid bod yn rhaid bathu geiriau Cymraeg newydd sbon megis perdoneg am biano neu glawlen am ymbarel. A diolch byth fod radio yn disodli diwifr. Mae ambell gyfystyr Cymraeg yn yr ail adran yn taro'n chwith iawn, megis anoedogedd am juniority." Nid oes gennyf gweryl ag Arthur ap Gwynn am ddefnyddio K yn Gymraeg, er y byddai'n well gennyf fy hun weld cilogram yn hytrach na Kilogram. Ond gwelir anghysondeb eto mewn ffurf fel Corân ar gyfer Koran." Yn olaf, er yr holl ychwanegu at yr ail adran mae llawer o eiriau eto'n eisiau-er enghraifft air cyffredin fel handle yn ferf ac yn enw. A beth am bâr fel abstract a concrete ? Ofer chwilio yn yr adran gyntaf am haniaethol a diriaethol, na hyd yn oed am concrit. Gwnaethpwyd gwaith sylweddol ar y geiriadur hwn ac ni hoffwn fod yn grintachlyd. Mae'n ddiau y bydd yn llanw bwlch a'i lenwi'n bur ddigonol. Bydd yn dda gan aelodau dosbarthiad- au'r WEA gael offeryn hylaw fel hwn wrth ddarllen testunau Cymraeg ac wrth ysgrifennu traethodau. Yr angen mawr nesaf yw geiriadur bach Cymraeg, â'r diffiniadau yn Gymraeg ac nid yn Saesneg. MELVILLE RICHARDS