Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Taith yn Sbaen, gan R. Bryn Williams. Gwasg Gee. 1/6. Cydymaith yr Hwsmon, gan Hugh Jones, Maesglasau. Golyg- wyd gan Henry Lewis. Llyfrau Deunaw. Gwasg Prifysgol Cymru. 1/6. Llanwynno, gan Glanffrwd. Gwasg Prifysgol Cymru. 5/ Samuel Roberts, Llanbrynmair, gan Glanmor Williams. Cyfres Dathlu Gŵyl Dewi. Gwasg y Brifysgol. 2/6. Plaid Cymru and Wales, gan Gwynfor Evans. Silurian Books. Llyfrau'r Dryw. 2/ DYMA bump o lyfrau i'w hadolygu gyda'i gilydd, ar un anadl megis-tri ohonynt yn gwbl newydd, a dau yn weddol hen o ran dyddiau, ond yn dirf eu hysbryd. Y Parchedig Bryn Williams biau'r Daith i Sbaen, sef saith o benodau byrion yn adrodd hanes ymweliad Côr y Rhos â rhannau o Sbaen. Gwych o beth ydoedd i'r Côr hwn gael ei wahodd i ddangos ei wrhydri mewn gwlad bell. O fyned o gwbl, cystal â dim fyddai cael lladmerydd i'r Côr, a fedrai Sbaeneg yn lled rwydd. A dyna'r modd y daeth Bryn Williams i mewn i'r darlun, gyda'i gefndir o fyw ym Mhatagonia yn help iddo nid yn unig i ddeall Sbaeneg ond i ddirnad cryn dipyn am feddwl a moddau y Sbaenwyr. Edrydd yr hanes yn llithrig ddigon, mewn iaith sydd ar y cyfan yn ddifrycheulyd, er dangos ôl brys yn awr ao eilwaith. Blas gwyliau sydd ar y llyfryn, ac nid yw fymryn ar ei golled o'r herwydd. Neidiwch ato, heb ddisgwyl cael ynddo fawr o wybodaeth am ddirgelion byw yn Sbaen heddiw, ac ni bydd yn edifar gennych gael eich tywys ar redeg dros rai miloedd o filltiroedd mor hyfryd â dim sydd yn Ewrop. Llyfr yn y gyfres "Llyfrau Deunaw" ydyw Cydymaìth yr Hwsmon, a math o waith dwys a myfyrgar na ellid disgwyl ei sgrifennu heddiw. Perthyn yn hytrach i gyfnod cyforiog o brof- iadau crefyddol, ac i ŵr a oedd hefyd yn emynydd, neb llai na Hugh Jones, Maesglasau, a gysylltir gennym bron yn unig â*r emYn-O, tyn y gorchudd ar y mynydd hyn. Os cewoh awr neu ddwy o hamdden yn ymyl Dinas Mawddwy, ewch, da ©hi, ar eich union tua'r gilfach werdd lle y cartrefai Hugh Jones. Bydd hynny'n gystal ffordd â'r un ichwi ddeall meddwl y bardd» ac i