Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS DYNA waith dyrys yw cael llawer i mewn i ychydig o Ie. Araf- wyd tipyn ar ein gweithgarwch yn ystod yr Etholiad, ond wedi i hwnnw fynd heibio ymddengys fel petai'r gweithgarwch yn gorlifo ymlaen. Dau ddiwrnod wedi'r Etholiad, dyma Gangen Dyffryn Ogwen yn cynnal Ysgol Undydd, â D. Jones Davies, Trefnydd Addysg Pobl mewn Oed o dan Bwyllgor Addysg Arfon, yn darlithio ar Diwedd Cyfnod." Dwy ddarlith feistrolgar a meddylgar. Y Dydd Mercher wedyn, dyma alwad diwrthod o Benmynydd i gyfarfod arbennig i ddiweddu'r tymor. Yn ôl yr hyn a glywaf, ac a welais ac a brofais, bydd gwleddoedd pentymor dosbarth- iadau'r WEA yn ddihafal. Gŵr gwadd arall i Benmynydd oedd R. Redvers Jones, Trefnydd Addysg Pobl Mewn Oed Sir Fôn. Defnyddiodd ef ei ddawn ymatal yn ystod y wledd i allu siarad yn afaelgar ac yn bwrpasol wedyn, a hefyd i weithredu fel Meistr y Cwestiynau mewn gornest ymysg aelodau'r dosbarth. Arferiad hapus iawn ydyw cynnal teparti wedi terfynu'r dos- barth. Weithiau, daw dau neu dri dosbarth ynghyd i gynnal ymryson, ac wrth gwrs i gael gwledd i'r corff yn ogystal ag i'r ymennydd. Felly y gwnaed yn Isaled eleni a'r llynedd. Bûm yng nghyfarfod Llanfair Talhaearn, ac yno hefyd yr oedd gwledd, ond ar ei hôl bu raid talu'r pwyth drwy ddweud gair neu ddau." Daeth Dosbarth Edern i Bwllheli i gynnal ei departi, gan wahodd yno Alun Llywelyn-Williams, Cyfarwyddwr Efrydiau Allanol y Coleg, a minnau. Yng Nghoedllai cafwyd te, cyngerdd ac anerchiadau, ac yno yn wahoddedig gyda'r Ysgrifennydd yr oedd Moses J. Jones, Is- Gyfarwyddwr Addysg Sir Fflint, ac A. G. Hopkins, Athro Llawn Amser y WEA yn y Sir. Clywais hefyd am sosial bywiog Caerwys, a llawer man arall, ond methais fod ynddynt. Cychwynnodd nifer o ddosbarthiadau newydd eleni, a gwneud yn rhagorol. Un arbennig felly oedd un Llanelidan, ger Rhuthun, dosbarth yno am y tro cyntaf erioed. Yr oedd 32 o aelodau wedi ymuno, a bu'n hynod o lwyddiannus. Yr un modd y dosbarth cyntaf erioed yn Llantysilio, Cefn Meiriadog, Tregeiriog, Nercwis,