FFAIR Gan D. T. EATON XTR oedd yn fore Sul hyfryd yn yr haf pan gerddai Rhys Ifans tua'r capel i oedfa'r bore. Ef oedd perchennog Paradwys y Gwragedd "-maelfa fwyaf tref Llaneos ac yn ŵr cyndyn mewn bargen. Yr oedd blys crynhoi arian wedi mynd i'w waed a meddiannu ei holl fywyd. Safai'r capel tu allan i'r dref ac arweiniai'r ffordd tuag ato drwy ddoldir prydferth. Llwyni'r gors yn eu gwisg aur yn gwn- euthur pictiwr tlws gyda gwyrddlesni'r coed yn gefndir iddo. Ond ni thyciai'r prydferthwch ddim cyn belled ag oedd dylanwadu ar ysbryd Rhys Ifans yn y cwestiwn. Nid oedd amser ganddo ef i'w wastraffu ar y pethau cyffredin hyn. Sut i grynhoi'r llwch aur oedd ei broblem bennaf ef, ac i'r amcan hwn y dar- ostyngai bob gallu a oedd ynddo. Bore da, Mr. Ifans meddai'r Parchedig Josiah Jones, a gyfarfu ag ef nid nepell o'r capel. Sut yr ydych chwi yn teimlo y bore hwn ? Chwi'n weddol ? "Da iawn, wir, Mr. Jones," oedd ateb Rhys. "Da iawn; onid yw yn fore braf ? Ydi, siẃr," ychwanegodd y gweinidog. Y mae Duw ar ei orau y bore yma, ac yn ein gwahodd ninnau i'w gymdeithas yng ngogoniant ei brydferthwch." Eitha reit," meddai Rhys, gan wenu ar y pregethwr, ac rwy'n siwr y cawn bregethau rhagorol gennych chwi heddiw." Wel, fe wna'r llwch gwael hwn ei orau fel arfer," oedd ateb y Parch. Josiah Jones, gan geisio edrych mor ddiymhongar ag y medrai. Cadair o dan y pulpud oedd eisteddfan Rhys Ifans. Yno yr oedd yng ngŵydd y gynulleidfa â golwg ddifrifol a santaidd arno. Mynych y clywid un o'r aelodau yn sôn am yr olwg ddefos- iynol a oedd arno, a'i fod yn ŵr hoff o wrando'r gair. Mater y bregeth y bore hwn oedd Joseff yn llywyddu'r Aifft. A phan ddechreuodd y pregethwr sôn am Joseff yn casglu llawnder yd y wlad honno i'w hysguboriau, ehedodd meddwl Rhys Ifans yn syth, fel gwennol i'w nyth, yn ôl i'w faelfa. Meddyliodd am y stôr newydd o wlanen a oedd newydd ddod i mewn, a pha