Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWY SONED Gan T. E. NICHOLAS ANGOF YR hogyn bach â'i lechen yn ei law, A'i dafod yn ymdroi ar hyd ei fin, Yn gyrru ei bensel garreg yma a thraw A chael ei wersi'n anodd iawn eu trin Tynnu llun ceffyl, adar, craig a rhyd, Pethau cynefin i'r ysgolor bach Nid yw y lluniau'n debyg i ddim byd- Plant ei ddychymyg ynt-heb ffun, heb ach Pan sycho'i lechen oer â'i lawes lwyd Diflanna'r lluniau a'r llythrennau blêr, Megis aderyn o gaethiwed rhwyd Yn llithro i'r gwacter rhwng y byd a'r sêr Felly y derfydd cof am serch a chas, Fel diflanedig luniau'r llechen las. Y TRYSOR CUDD MAE'R cyfan yma yn rhywle persawr blodau A lliw rhosynnau'r gerddi; sisial dẃr Dan goedydd gwylaidd, a gwefreiddiol nodau Adar fy ngwlad, a chwiban gwynt yn nhwr Y castell chwâl. Cyfaill â'i eiriau'n gariad, Gelyn â'i sen a'i ddig yn chwerwi 'myd, Y mêl a'r wermod heb yr un amhariad- Er eu hanghofio-y maent yma i gyd. 'Lawr yn iswybod enaid mae mwynderau A thrychinebau fy ngorffennol pell, Yno y maent ynghudd yn y dyfhderau— Caethion dilafar yn unigrwydd cell. •Gwynfyd a g wae yn angof yn fy mron Fel llaid a pherlau'n gymysg dan y don.