DAU DELYNEGWR Y Gwin, a Cherddi Eraill, gan I. D. Hooson. Cân neu Ddwy, gan T. Rowland Hughes. Gwasg Gee. 4/- yr un. "VTA, Mr. Golygydd, 'fedra i mo'u hadolygu "-nhw, gan geisio hollti blew a phwyntio fel y mae'r ffurf amheus mynydd- au wedi llithro i mewn fan yma a'r rhagenw perthynol a wedi llithro allan fan acw. Yn hytrach, gedwch imi roi un floedd orfoleddus trwy Lleufer am gaffael ohonom yn Gymraeg ddau lyfr o ganu telynegol mor odidog â hyn yr un flwyddyn, fel yr aeth W. H. Davies i ryfeddu a gorfoleddu pan glywodd yntau'r gog a gweled yr enfys yr un pnawn. Nid nad oes yn y ddau lyfr rai darnau o brydyddiaeth heb fod yn delynegion, megis Awdl Y Ffin T. Rowland Hughes, ac ystoriau rhagorol ar gân, megis Seimon, Mab Jona," gan I. D. Hooson, a'i drosiadau dewin o ddamhegion Criloff, Yr Haint a'r Dail." Ond y dawn telynegol a roed yn helaethaf i'r ddeufardd, a hyfryd yw clywed mor orffenedig y cenir y delyneg Gymraeg tan eu dwylo;- clywed nid gweled, oherwydd trwy'r glust y delir rhin telyneg. Ac os caf trwy gyfrwng y nodyn byr hwn rannu'r rhin â rhai o ddarllenwyr LLEUFER, dyna fi'n fodlon. Nid â darllenwyr o ddosbarthiadau llenyddol yn unig chwaith ;-dosbarthiadau economeg, dosbarthiadau gwleidyddiaeth, dosbarthiadau sei- coleg, dosbarthiadau athroniaeth, dosbarthiadau gwyddoniaeth- Mae'n rhaid i chwithau wrth ychydig win Ac y mae digon o win yn nhelyneg gyntaf un Hooson (sy'n rhoi'r teitl i'r llyfr) i lawenychu calon dosbarth am noswaith gyfan o ymglywed â'i rhin Pe cawn fy hun yfory Yn llencyn deunaw oed, A'r daith yn ail-ymagor O flaen fy eiddgar droed, Ni fynnwn gan y duwiau Yn gysur ar fy hynt Ond gwin yr hen ffiolau A brofais ddyddiau gynt. GAN CYNAN