Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn sicr, y mae Miss Enid P. Roberts wedi ein rhoddi dan ddyled drom iddi am ei gwaith da a gofalus. Hwyrach mai'r deyrnged uchaf i'w gwaith yw awgrymu mai da o beth fyddai cael cyfraniad pellach ar yr un testun ar raddfa ehangach, oblegid teimlir ar derfyn y llyfr fod llawer eto i'w sgrifennu ar y maes. A. DAN THOMAS CYLCHGRONAU.-Ni bydd LLEUFER yn arfer adolygu cylchgronau, ag eithrio croesawu rhai newyddion ar dro. Croeso i'r Einion, cylchgrawn Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, o dan olygiaeth Alwyn D. Rees. Cyhoeddir ef ddwywaith y flwy- ddyn gan y Silurian Press, Llandebïe, am 3 /6. Ceir ynddo ysgrifau Cymraeg a Saesneg ar Addysg, ar Gymru, neu ar y ddau. M. S. Hughes, Gwenallt, Dewi Llwyd Jones a B. B. Thomas yw awduron yr ysgrifau Cymraeg. Cylchgrawn diddorol a graenus iawn. Croeso hefyd i Caban, cylchgrawn Chwareli Oakeley a'r Foty, Blaenau Ffestiniog. Saesneg ydyw hwn bron i gyd, ond y mae'n llawn o luniau rhagorol, a rhydd adroddiad byw iawn o holl weithrediadau'r ddwy chwarel, ac ymdrechion y perchnogion i ofalu am gysur a hapusrwydd eu gweithwyr. Daeth un cylchgrawn arall i law, a rhaid sylwi ar hwn, o achos rhifyn arbennig ydyw, sef Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones o'r Llenor, o dan olygiaeth W. J. Gruffydd a T. J. Morgan (Hughes a'i Fab, 6/-). Ni all neb a fydd yn darllen ac yn trysori gwaith T. Gwynn Jones fforddio bod heb y rhifyn hwn o'r Llenor. Buasai'n dda iawn gen i ei gael mewn plyg llyfr â rhwymiad lliain, i'w gadw ar fy silffoedd ochr yn ochr â llyfrau Gwynn Jones ei hun. Fe'i cadwaf er hynny-ar silff arall. Ceir yma atgofion am Gwynn ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd gan W. J. Gruffydd, William Eames, E. Morgan Humphreys, Dewi Morgan, E. Tegla Davies, Iorwerth C. Peate a John Eilian ysgrifau ar agweddau ar ei waith gan R. I. Aaron, Thomas Parry, Stephen J. Williams, Idris Bell a T. J. Morgan a manylion ynglŷn â'i fywyd a'i waith gan Arthur ap Gwynn. Barddoniaeth hefyd gan ddwsin o feirdd blaenaf Cymru, ond caiff rhai ohonynt well hwyl na'i gilydd. Hoffais i waith Gwenallt, Geraint Bowen, John Eilian a Gwilym R. Jones. (Sylwais ar un gwall argraff y mae eisiau canu ar ôl y gair drwg yn 11. 16, t. 115 !) D.T.