yn fyw o hyd. Cyrraedd y chwarae ei uchafbwynt pan ddaw John (yn rhagluniaethol braidd) wyneb yn wyneb A'i dad, ond heb i hwnnw ei adnabod Y mae thema'r ddrama i'w chanmol, ond rywfodd ni lwyddodd yr awdur i wneud cyfiawnder â hi. Nid yw'r cymeriadau'n gafael fel y dylent, a gellid cael gwell dialog mewn rhai mannau. Dichon mai'r rheswm yw bod yr awdur yn rhy uchelgeisiol, a charwn awgrymu iddo fod y thema hon yn galw am ddrama dair act i'w datblygu'n llawn. Eto, ar lawer cyfrif, y mae'n ddrama bur dda, yn hawdd ei Uwyfannu, ac yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl a fydd yn gymorth i gyfarwyddwyr a chwaraewyr. Comedi yn nhafodiaith y De yw'r ail, a chomedi lwyddiannus. Cefndir y chwarae yw dyfodiad y noddedigion i un o bentrefi glofaol De Cymru yn adeg rhyfel. Yn eu plith y mae Joni, ac er nad ymddengys ar y llwyfan o gwbl, o'i gwmpas ef y mae'r ddrama'n troi a symud a bod. Cartrefa gyda Martha a William Evans-y ddau wedi gwirioni arno, ond bod y wraig yn llwyddo i guddio hynny'jn burion hyd ddiwedd y chwarae pan gyfyd y perygl o'i golli. Y mae'r cymeriadau yma'n fyw William, a'i ofal mawr am y boi bach Martha, yr un mor deimladwy, ond yn ceisio ymddangos yn ddihidio Mrs. Pendleton-Hughes (y mae'r heiffen yn bwysig), o'r W.V.S., a thynged y wlad yn dibynnu'n llwyr arni a'r Cynghorwr Rees, Chief Billeting Officer," llawn pwysigrwydd a ffwdan. Dyma ddarn o fywyd yn wir. Y mae'r ddialog yn ystwyth a llawn hiwmor, a'r chwarae'n symud yn lyfn ac esmwyth. Drama gyffrous ac anturus yw Pedrito. Lleolir y chwarae mewn swyddfa cwmni masnach yn y Wladfa, a cheir pum cymeriad-pedwar dyn ac un ferch. Y mae'r elfennau i ddrama antur yma, ond gwell peidio â sôn am y plot rhag dadlennu'r gyfrinach ar y diwedd. Y mae galw am ddrama fel hon, ac fe ddisgwyliem iddi fod yn effeithiol ar lwyfan. Yr hen thema o'r gŵr bach diniwed yn sefyll i fyny i wynebu ei wraig awdurdodol, a hithau'n gwyro iddo-dyna a geir yn Rhaff. Cyffredin yw'r ymdriniaeth, ac anhygoel braidd yw troedigaeth sydyn y wraig ar y diwedd. Y mae yma beth hiwmor, ond nid digon i wneud y ddrama'n fyw a diddorol. RhigymauW Pridd, gan William Jones. Gwasg Gee. Pris 1/6. Ni wn fawr ddim am William Jones, ond dywaid fy ngreddf wrthyf ei fod yn fardd. Hyfryd yw darllen ei delynegion profi o hudoliaeth rhostir a gweundi r, pridd a chnydau, eithin a grug ymdeimlo â'r gymundeb rhwng dyn a daear 'Doedd dim ond darn o glai y fro Rhwng cyrn y gwydd yn arddu'i fam. Yn nhermau Natur y sieryd y bardd hwn am fywyd. Dyddiau hau yw pob geni, sy'n esgor ar lawenydd a phrydferthwch dyddiau'r medi gorffwyll ydyw rhyfel. Nid oes dianc yma rhag helynt byw y mae Natur yn dyner a hefyd yn greulon, yn rhoi ac yn cymryd. Y mae peth o Williams Parry a Housman yma, eu paganiaeth naturiol, a'u crefft, ond nid dynwaredwr mo William Jones. Dyma fardd a saif yn solet ar ei sodlau ei hun, ar fan sydd yn santaidd iddo — daear Hiraethog. Diolch i D. Tecwyn Lloyd am berswadio'r awdur i gyhoeddi'r cerddi. Byddai colli" Rhigymau'r Pridd yn golled yn wir. MEREDYDD EVANS