GWYRDD AC YSGARLAD GAN EDWARD THOMAS Un noswaith adroddai Aurelius wrth Mr. Stodham hanes "brwydr y gwyrdd a'r ysgarlad." "Yn eich gwlad chwi y digwyddodd," meddai wrth y gwr da hwnnw; yr oedd yntau'n rhy wylaidd i anghoelio. "Na ddo," atebodd Mr. Stodham, "chlywais i erioed sôn amdani." "Dyma hi ichwi," meddai Aurelius, ac ymlaen â'i stori. "Y peth cyntaf a gofiaf ydyw bod dyn tal, main, mewn gwyrdd wedi torri allan o'r goedwig dywyll, gan neidio'n orhoenus, ond yn cadw amser yn berffaith, ac yn canu'n wyllt, ac mi wyddwn mai arwain byddin i fuddugoliaeth yr oedd. Fel y cerfiai ac y peintiai ei lun ar fy meddwl, gwyddwn heb geisio bob peth a ddigwyddasai cyn y foment oruchel honno. "Tua diwedd y prynhawn yn y gaeaf oedd hi. Ni ddeuai dim golau o'r awyr niwlog anweledig, ond yr oedd copa glaswelltog y mynydd moel fel petai'n anadlu ohono'i hun ryw lewych tyner. Ymha le'r oedd y foel honno ni wn, ond yr adeg hon cerdded yr oeddwn wrth olau dydd ar hyd ffordd dda yn Nyfed. "Torrodd y dyn gwyrdd, y neidiwr hoenus a'r canwr gwyllt, o'r goedwig ar ochr y bryn ar flaen byddin werdd. Yr oedd ei neidio a'i ddawnsio mor odidog, gallech feddwl ar y dechrau nad oedd ei ddilynwyr yn ddim ond edrychwyr segur. Daeth y gelyn yntau, wedi ei wisgo mewn ysgarlad, allan o'r goedwig ar y llechwedd gyferbyn. Symudai'r ddwy fyddin i gyfeiriad gwastadedd esmwyth o laswellt gwyrddfelyn i gyfarfod yno. "Am ddyddiau a nosweithiau, yr oedd llechweddau serth y goedwig wedi cuddio symudiadau'r lluoedd. Ag eithrio rhyw un neu ddau o boptu, ni welsent ac ni chlywsent ei gilydd o gwbl, gan mor dywyll oedd y coed, ac mor drwchus a dryslyd y niwloedd ni ellid ond dyfalu a welsai 'r ychydig hyn eu gelynion ai peidio, oblegid yn farw y cafwyd hwynt. Ddydd a nos gwelai'r ymladdwyr niwl gwelw, coed tywyll, daear dywyllach, ac wynebau gwelwon eu cymdeithion, byw neu farw. Yr hyn a glywent yn bennaf oedd .anadlu trwm dynion ar golli eu gwynt ar y llechweddau, ond weithiau deuai sŵn defnynnau grisialàid prudd y niwl yn diferu, adar mawrion yn ehedeg drwy'r awyr wlyb, â'u sgrechiadau o fraw neu o ddigofaint yn erbyn y goresgynwyr, mân drydar mân adar yn gwibio'n eofn o'u cwmpas, a chân bronfreithod yn y drain ar odre'r llennyrch. "Yn nistawrwydd diddigwyddiad y goedwig ddieithr, dechreuasai'r ddwy fyddin, ond yr un ysgarlad yn fwy hyd yn oed na'r un werdd, ddyheu am y frwydr, pe na bai ond i ddangos nad oeddynt wedi eu colli, eu hanghofio a'u gadael, yng nghalon y niwl, wedi eu torri ymaith oddi wrth amser a phob dynoliaeth, ond y meirwon hen y gorffwysai eu hesgyrn yn y crugfeddau o dan y ffawydd. Felly, â llawenydd mawr y clywsant sŵn traed eu gelynion yn nesáu ar draws y gwastadedd. Pan welsant ei gilydd teimlai'r dynion ysgarlad fel petaent yng ngolwg cartref, ac i'r dynion gwyrdd yr oedd megis petai gariadferch yn galw. Angofiasant y mynyddoedd