SONED—Y WYS GAN R. SILYN ROBERTS Dyred i'r fedw gadeiriog I grefydd y gwŷdd a'r gog." Y goedwig gynt fu'n gwahodd Dafydd fwyn A'i Forfudd wresog i rodfeydd y dail, I ganu a chusanu bob yn ail, A chyd-addoli wrth allorau swyn, Sy'n gwysio Nan a'i bardd i deml y llwyn, I wrando dwsmel gainc yr adar mân, A suon tyner pur awelon glân, A bair i'r galon flin anghofio'i chwyn. Mae'r sêr yn eilio'r alwad, em fy serch, A'r lloer yn addo'i golau ar y daith, Gad inni brofi gwleddoedd hud, fy merch, Cyn dyfod hirnos ddu'r gwahanu maith. Mae serch yn addaw inni arlwy'r sêr O loyw win a phasgedigion pêr. Gorff. 20, 1915. (O lawysgrifau Silyn y cymerwyd y Soned hon hyd y gwn i, ni chy- hoeddwyd hi o'r blaen). Ie, ac er gollwng yn rhydd ar y ddaear holl awelon dysgeidiaeth, cyd bo'r gwirionedd ar y maes, yn ofer ac er niwed y trwyddedwn ac y gwaharddwn,. gan amau ei nerth hi. Gedwch i wirionedd a chelwydd gyd-ymgodymu pwy erioed a wybu i'r gwirionedd goUi'r dydd, pan fyddai rydd a theg yr omest ? —JOHN MILTON. O holl fyfyrwyr Prifysgolion Prydain Fawr, cafodd eu hanner gychwyn eu haddysg yn yr ysgolion elfennol. Chwarter myfyrwyr Rhydychen a ddaeth o'r ysgolion hyn, ond oddi yno y daeth naw o bob deg o fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Bydd yn amhosibl rhoddi bywyd newydd mewn addysg ond o dan. arweiniad pobl sydd yn dal i ddysgu o'r newydd eu hunain.—H. G. WELLS. A DAFYDD AP GWILYM