Wrth y Tân, gan G. J. Roberts Yma ac Acw, gan D. R. Hughes Ceulan y Llyn Du, gan E. Morgan Humphreys. Llyfrau Pawb. Gwasg Gee, 1/3 yr un. Dywaid y golygydd wrthyf mai swydd adolygiadau ar lyfrau mewn cylch- grawn fel hwn yw egluro'u cynnwys a'u nodweddion i'r darllenydd cyffredin, yn hytrach nag ysgrifennu beirniadaeth neu werthfawrogiad arnynt. Y mae honno'n dasg gymharol seml. Cyfres o ysgrifau, cyfrol o atgofion, a stori ddetectif, yw'r tri llyfr a restrir uchod. Dr. T. H. Parry-Williams a ddug yr ysgrif fel ffurf lenyddol ysblennydd i'r Gymraeg. Ef o hyd yw ei meistr dihefelydd. Bu iddo lawer o ddisgyblion, a rhai ohonynt yn grefftwyr nid annheilwng, eithr ni pheryglwyd ei ben- arglwyddiaeth eto gan neb. Yn ei ddwylo ef y mae'r ysgrif yn offeryn cyfrwys, synhwyrfain, sy'n cofnodi ysmudiadau cywreiniaf a dyfnderoedd dirgelaf meddwl trofaus. Gallai'r gŵr brysiog dybio nad oes dim camp mewn llunio traethiad mor fyr ac mor ddisylw, i bob golwg, ag ysgrif. Eithr yn union oblegid ei byrdra, ni all ei hawdur fforddio difetha'r un frawddeg, na llithro i aflerwch mewn un cymal. Rhaid iddi gynnal ei gloywder a'i dengarwch yn ddi-feth o'i dechrau i'w diwedd. Fel tlws disglair, rhaid i'w manylion manaf fedru dal pob praw. Y mae'r Parch. G. J. Roberts eisoes yn hysbys i ddarllenwyr Cymraeg fel bardd o addewid a chyrhaeddiad. Yn Wrth y Tân, ceir ganddo dair ar ddeg o ysgrifau, yn cynnwys un a enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid yw'r un ohonynt yn fwy na phedwar tudalen o hyd, ac y mae rhai yn llawer byrrach. Myfyrdodau ar bethau cynefin, digynnwrf, beunyddiol, yw eu deunydd,-Arogleuon, Henaint, Pobl Ddieithr, "Diwrnod i'r Brenin." Weithiau, cymer y meddwl dro annisgwyl, megis pan fyfyrio ar y Crefyddwyr Undydd, sef y blodau a adduma'r Eglwys ar Ddydd Gŵyl Diolchgarwch,. neu'r Gwas Ffyddlon, nad yw namyn pin ysgrifennu yr awdur. Tro araU, ceir portread cryno, cofiadwy, megis y ferch brydweddol a ddisgwylia'i chariad o gymhelri'r dafarn, neu Jim a Jinw, neu'r ddau efell yn yr ysgrif olaf. Rhed dwyster synfyfyriol drwy'r ysgrifau i gyd, ac eisoes fe sonia'r awdur am fynd yn hen." Y mae eu Cymraeg yn ddifrycheulyd, y brawddegau'n gymesur, a'r dewisiad o ansoddeiriau'n bwyllog gadarn, ac y mae'r sylwadaeth yn aml yn braff. Eto, nid yw'r arddull un amser yn dawnsio, a gellir dweud y bydd gwaith Mr. Roberts yn y cyfrwng hwn yn y dyfodol yn denu darllenwyr lluosocach,. os cynydda ef mewn buandra ymadroddiad, a hoywder, a phefrdra. D. R. Hughes oedd ysgrifennydd dygn a gwlatgar Cymdeithas yr Eis- teddfod Genedlaethol, ac y mae'n awr yn un o gyd-ysgrifenyddion Cyngor yr Eisteddfod. Hyd yn ddiweddar, ni allai llawer ohonom ei gysylltu ag unman ond Llundain, Ue'r oedd yn arweinydd y bywyd Cymreig. Eithr ym mhennod gyntaf Yma ac Acw fe ddisgrifia'n gryno-gynhwysfawr ugain mlynedd cyntaf ei oes, hyd 1894, sef ei fachgendod ym Mhorthmadog, Bangor a Llandudnoy a'i dymhorau yng ngholegau Bangor ac Aberystwyth. Ymhlith yr enwau a ddigwydd ar yr 11 tudalen hyn, y mae Eifion Wyn, Llew Tegid, Henry Jones,. Lloyd George, Tom EUis, Samuel Evans, WiUiam Jones, a Gladstone. Y