"A'R HWYR A FU, A'R BORE A FU" GAN ANNIE FFOULKES Le Silence de la Mer," gan Vercors," Macmülan, 3s., a chyfieithiad gan W. Ambrose Bebb, Mudandod y Môr," Llyfrau Pawb, Dinbych, 1/3. Nid adolygiad ar stori Vercors (" Le Silence de la Mer "), nac ar gyfieithiad Ambrose Bebb (" Mudandod y Môr "), ydyw'r ysgrif hon. Ond carwn ddywedyd y credaf fod Mr. Bebb wedi llwyddo yn y prif braw ar gyf- ieithu; ceir yn ei waith yr un mwynhad artistig a'r un angerdd teimlad ag a geir pan fo un yn darllen y gwreiddiol. Swynol iawn hefyd yw Rhagair Mr. Bebb, — ei eiriau prin, coeth, a'i ddwfn ddeall. Tuedd cyfieithwyr ers blynyddoedd yw trosi Ffrangeg, yn hytrach nag ieithoedd eraill, i'r Gymraeg. Y mae bob amser reswm am duedd, ac y mae gan bob cyfieithydd ei reswm arbennig ei hun dros ei ddewis, ond nid oes dim dwywaith am ddylanwad ysgolheigion llenorol Ffrainc ar y rhai o fyfyrwyr ein colegau a fu'n astudio yn Ffrainc yn ystod y blynyddoedd diweddar. Y mae'n sicr hefyd mai'r Cymro â Chymraeg da ganddo, ac nid y Cymro di-Gymraeg, ydyw'r manteisiwr mwyaf ganddo ef, yn hytrach na chan y líaU, y mae'r ddawn i ddeall pobl Ffrainc. (Af fy hun ymhellach credaf ei fod ef, sef y Cymro â'i iaith ganddo, yn fwy deallus drwyddo draw, na'r llall. Dyma dynnu nythaid yn fy mhen !). Gyda llaw, bu llawer o feirniadu yn ddiweddar ar Ffrainc a'i phobl, ac yn yr argyfwng hwn da fyddai inni ddarllen, neu ail-ddarllen, ysgrifau a rydd ddarlun cywir o'r wir Ffrainc, ei phobl, ei llên a'i gwareiddiad. Erbyn hyn y maent yn lluosog, ond awgrymaf Ffrainc a'i Phobl," gan R. T. Jenkins, neu ysgrif yr Athro W. J. Gruffydd (" Y Traddodiad Llenyddol yn Ffrainc ") yn rhifyn Haf, 1930, o'r Llenor, neu ysgrif a ymddangosodd cyn belled yn ôl â 1917, ond sydd heddiw yr un yn ei diddordeb, sef The Spirit of France," gan yr Athro H. J. Fleure. Yn rhifyn Ionawr, 1917, o'r Welsh Outlook y ceir hi. Ond i ddyfod at y pwnc. Nid peth anghyffredin yn Ffrainc oedd i feirdd a llenorion orfod talu'n ddrud am bleidio rhyddid lleferydd ac ysgrif cafodd Victor Hugo, Jean-Jacques Rousseau, Bâranger, Chênier, ac eraill, eu halltudio, neu'u carcharu, neu'u lladd, am fynegi eu syniadau. Ond yn fy llaw y mae gwyrth lenyddol, sef Le Silence de la Mer (" Mudandod y Môr "), y stori gyntaf mewn cyfres a elwid Cyfres Canol Nos." Ysgrifennwyd hi yn Ffrainc yn 1941. Ym Mharis, yn 1942, y cyhoeddwyd hi gyntaf, o dan y ffugenw Vercors," ond fe wyddom erbyn hyn mai Jena BruUer, arlunydd ym Mharis, ydyw yr awdur, ac er gwaethaf perygl bywyd iddo ef, a'r argraffydd, a'r cy- hoeddwyr, daeth y llyfr yn ddirgel dros Wal yr Atlantig i Lundain. Gwyrth-