Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er nad ydyw Undeb Cymru Fydd ond teirblwydd oed, ymestyn ei hanes yn ôl gryn dipyn yn hwy na hynny. Oherwydd yn Hen Golwyn yn Awst, 1941, adeg yr Eisteddfod Genedlaethol, unwyd ynddo ddau fudiad, a fu'n gweithio dros fuddiannau Cymru, — yn ddiwylliadol, yn bennaf, — y naill ers dros chwarter canrif, sef Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, a'r llall er dechrau'r rhyfel presennol, sef y Gynhadledd er Diogelu Diwylliant Cymru. Bu'r naill yn dyfal ymdrechu am flynyddoedd i gydio'r cymdeithasau diwylliannol a llenyddol ar hyd a lled Cymru wrth ei gilydd, a chafwyd cryn lwyddiant ar y gwaith, yn enwedig yn y De ond llesteiriwyd effeithiolrwydd y gwaith gan ddifaterwch cynifer o'r Cymry yngltn â buddiannau gorau eu cyd-genedl. Yr oedd hi'n rhy esmwyth yn Seion ar y rhan fwyaf ohonom, ac ychydig, ar gyfartaledd, o arweinwyr bywyd meddyliol Cymru a gymerai ran flaenUaw yng ngweithgarwch Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Eto yr oedd eithriadau disglair, ac y mae gwir glod yn ddyledus iddynt hwy ac i'r hoU ffyddloniaid a fu mor barod i ddwyn pwys y dydd a'r gwres. Pan dorrodd y rhyfel ym Medi, 1939, teimlodd nifer o Gymry fod dydd y praw wedi dyfod ar y genedl, ac oni byddai iddi ddeffro o'i thrymgwsg, buan y darfyddai amdani i bob diben ymarferol. Amlygwyd y teimlad hwn mewn Ûythyrau i'r wasg, ac ym mhenderfyniad Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i alw^cynhadledd y gwahoddwyd iddi gyrff swyddogol a gwirfoddol, ynghyda'r Eglwysi Cristionogol, i gyd-ystyried pa fodd y gellid diogelu ffordd y Cymry o fyw. Cafwyd yn y gynhadledd honno, a gynhaliwyd yn nhref Amwythig ar y dydd cyntaf o Ragfyr, 1939, unfrydedd nodedig a phenderfynwyd mynd â neges y gynhadledd drwy Gymru benbaladr. Ar yr un pryd, ymaflodd y Pwyllgor Gwaith a ddewiswyd mewn nifer o faterion yr oedd a fynnent â buddiannau cyffredinol y genedl, megis yr ymogelwyr a'r problemau a achosent, y ^darpariadau newydd yngljn ä’r Gwasanaeth Ieuenctid, ac yn y blaen, a'u dwyn ymhellach i sylw'r awdurdodau cyfrifol. Efallai bod y gwaith hwn yn amlycach i'r cyhoedd, ond yr oedd y gwaith arall, sef ymgais at ddeffro barn y wlad trwy'r cyfarfodydd lleol, yn llawn cyn bwysiced yn y pen draw. Yr oedd gweithgarwch Undeb y Cymdeithasau Cymraeg wedi codi nifer o weith- wyr lleol egnïol, a chwanegwyd at y rhain gan y trefniadau a wnaethpwyd yn y flwyddyn cyn y rhyfel o blaid y Ddeiseb Genedlaethol er sicrhau ei lle priod i'r iaith Gymraeg yn y llysoedd a'r gwasanaethau cyhoeddus. Bu'r cyfeillion hyn yn hynod barod eu cynhorthwy, a daeth eraill o'r newydd i ymddiddori yn yr ymdrechion, ac i roddi eu hysgwyddau o dan y baich. Fel y datblygai'r gweithgarwch lleol hwn, daeth yn amlwg fod peth gwastraff adnoddau wrth geisio cynnal dau fudiad a oedd yn fwy neu lai annibynnol, ac ar ôl trafod- aethau trylwyr unwyd y ddau, fel y dangoswyd eisoes, mewn mudiad y mae ei enw, i'r sawl a ystyrio, yn awgrymog ac yn arwyddocaol ddigon. UNDEB CYMRU FYDD GAN T. I. Ellis