Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ym 1872, gwahoddwyd ef i Rydychen i barhau gwaith, a oedd eisoes wedi ei ddechrau, ar gatalog o'r llawysgrifau Perseg, Twrcaidd, Hindwstanaidd a Phushtu yn Llyfrgell y Bodleian, ac i lunio catalog atodol o'r llawysgrifau Arabig. Yn yr un flwyddyn, penodwyd ef gan Ysgrifennydd Gwladol India a'r India bryd hynny'n cael ei llywodraethu o Lundain i swydd a olygai gatalogio'r llawysgrifau Perseg yn llyfrgell Swyddfa'r India yn Llundain. Ymdaflodd yn egnïol i'r dasg o roi trefn ar rai miloedd o lawys- grifau y rhan helaethaf ohonynt yn gwbl ddieithr i ysgolheigion Dwyreiniol y dydd a rhoi crynodeb manwl o gynnwys pob un. Cyhoeddwyd ffrwyth ei lafur mewn pedair cyfrol swmpus un ohonynt ym 1937, ugain mlynedd union ar 61 ei farw. Yn Aberystwyth, wedi iddo gyrraedd yno, rhoddodd drefn hefyd ar gasgliad cymharol fach y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgri- fau Dwyreiniol (Perseg gan mwyaf), a chyhoeddwyd ei gatalog ohonynt gan y Llyfrgell ym 1916. Ym 1897, cyhoeddodd gyfrol ar hanes llenyddiaeth Persia, a'i eiddo ef yn ei gyfnod oedd yr erthygl ar yr un pwnc yn yr Encyclopaedia Britannica. Gweithredodd am flynyddoedd fel arholwr mewn ieithoedd Dwyreiniol ym Mhrifysgol Rhydychen, a chydnabu'r Brifysgol honno ei wasanaeth drwy roddi iddo radd MA honoris causa. 'Cawr o ysgolhaig', meddai'r hanesydd R. T. Jenkins amdano. 'Ethe the marvellous polyglot', meddai'r hanesydd mawr arall hwnnw, John Edward Lloyd.2 'Hermann Ethe', meddai un o'i gyd-athrawon yn Aberystwyth, C. H. Herford, 'was probably, till the close of the century at least, the one man of European reputation who held a chair at any of the Welsh colleges'. 3 Yng Ngholeg Aberystwyth cymerai ddosbarthiadau mewn iaith a llenyddiaeth Arabeg, Syrieg, Hebraeg, Sanscrit, Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg, ac fel pe na fyddai hynny'n ddigon, byddai troednodyn rheolaidd yn llenyddiaeth y Coleg yn y cyfnod hwnnw'n cyhoeddi: 'Dr Ethe will be happy to read with students in other Oriental languages'. Ac fel y tystia R. T. Jenkins, nid rhyw wybodaeth 'holi ei ffordd i'r stesion' oedd ganddo, ond gafael go sicr ar lenyddiaeth a diwylliant yr ieithoedd hynny i gyd.4 Yn 61 David Adams, brodor o Dal-y-bont, Ceredigion, un o fyfyrwyr cyntaf Coleg Aberystwyth, yr oedd hefyd 'yn fwy cydnabyddus a'r iaith Saesneg a'i llenyddiaeth na'r Saeson eu hunain'.5 Ond yn ychwanegol at ei holl weithgarwch addysgiadol ac ysgol- heigaidd, cymerai ran flaenllaw hefyd ym mywyd y coleg ieuanc. Cyfrannai'n gyson i gylchgrawn y coleg, a siaradai yn y Gymdeithas Ddadlau. Bu'n cynrychioli'r coleg yn y Gyngres Ddwyreiniol Ryngwladol yn Berlin ym 1881, ac eto yn Leyden flwyddyn yn ddiweddarach.