ERLID YN ABERYSTWYTH 1914-1917: ACHOS HERMANN ETHE Yn Aberystwyth ar ddechrau'r Rhyfel Mawr trigai tri gwr a oedd yn hen gyfarwydd i'w thrigolion oil, a thri a fu'n byw'n heddychlon ochor yn ochr a'i gilydd, o fewn ei therfynau, am flynyddoedd lawer. Ond yna daeth tro sydyn ar fyd, ac yma ceisir adrodd am ran y triwyr hyn, ac eraill hefyd, mewn achos o erledigaeth chwerw a erys yn un o'r penodau duaf yn hanes y dref. Cyfreithiwr oedd un ohonynt, T. J. Samuel, aelod o un o hen deulu- oedd y dref, brawd i David Samuel, prifathro'r Ysgol Ramadeg leol, Ysgol Ardwyn, awdur llyfrau a chyfrannwr cyson i'r Cymru coch. Graddiodd T.J. Samuel o Goleg Aberystwyth, ac wedi cyfnod byr mewn swyddfa cyfreithi- wr ym Methesda, Caemarfon, dychwelodd i Aberystwyth ym 1896, ac yno bu wedyn hyd ei farw yn 75 mlwydd oed ym 1939, yn gyfreithiwr, yn ynad heddwch ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dref ac o Gyngor Sir Ceredigion. Bu'n faer Aberystwyth, ac o 1921 hyd 1933 ef oedd Clerc y Dref. Rhyddfrydwr selog a dderbyniodd yr MBE am ei weithgarwch ynglyn a'r Ymgyrch Gynilo adeg y Rhyfel Mawr. Meddyg teulu a hanai o ardal Abergwaun oedd T. D. Harries, yr ail ohonynt. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd ac yn Ysbyty Guys, Llundain. Ym 1872, ac yntau'n 22 mlwydd oed, ymunodd a phractis med- dygol yn Aberystwyth, ac ymgartrefodd yno. Bu farw ym 1938 yn 88 mlwydd oed. Fel T. J. Samuel, ymdaflodd yntau i fywyd cyhoeddus. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor y Dref, a gwasanaethodd fel maer rhwng 1893 a 1895. Eisteddai hefyd ar fainc ynadon y dref. Yr oedd ganddo ddwy ferch a phedwar mab, ac yn Awst 1915, flwyddyn union ar 61 y digwyddi- adau a groniclir isod, syrthiodd un o'r bechgyn ar faes y gad yn Ffrainc. Athro yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth oedd y trydydd o'r triwyr, sef Carl Hermann Ethe. Ym 1875, ac yntau'n 31 mlwydd oed pen- odwyd ef i Gadair Ieithoedd Dwyreiniol a Modem yn y Coleg, a oedd wedi agor ei ddrysau dair blynedd ynghynt. Ganed ef yn Straslund yng ngogledd yr Almaen, yn ddisgynnydd o deulu o Hugenotiaid a ffodd o Ffrainc adeg yr erlid mawr arnynt yn yr ail ganrif ar bymtheg. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgolion Greifswald a Leipzig, gan feithrin yno ei ddiddordeb mewn astudiaethau Dwyreiniol, a dod yn fuan iawn yn awdurdod cydnabyddedig ar lenyddiaeth Twrci a Phersia. I wr o'i syniadau rhyddfrydig ef yr oedd wedi synhwyro nad oedd yr Almaen o dan Bismark yn le cydnaws iddo, a phan gafodd y cyfle, fe droes yn alltud gwirfoddol.