'Y MAB 0 EMLYN': GOLWG AR WAITH SYR PHYLIB, BARDD-OFFEIRIAD Er na ellir honni i gwmwd Emlyn le canolog yn hanes llenyddiaeth Cymru, y mae'n ddiamau y ceid cyfhodau pan oedd yno ferw llenyddol amlwg, ac erys y rhestr enwau o'r noddwyr a'r beirdd y cysylltid eu henwau ag Emlyn dros y canrifoedd yn un nodedig. Yn Emlyn y trigai Llywelyn, ewyrth Dafydd ap Gwilym a noddwr hael, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.1 Mewn cyfhod diweddarach, gellir meddwl am nifer o feirdd a hanai o'r fro, megis Dafydd Emlyn (Dafydd Wiliam Prys), a oedd yn ei flodau rhwng 1603 a 1622. Yn 61 Moses Williams, yr oedd Dafydd yn offeiriad yn ogys- tal a bod yn fardd a ganai i deuluoedd yn Nghemais, megis Henllys, Llwyn- gwair, Tre-wern a Phenybenglog, ac yn Nhrumsaran a Margam. Y mae enw Siams Emlyn hefyd yn hysbys, gwr a ganai yntau i deulu Penybenglog ym 1635. Efallai mai'r enwocaf ohonynt oll oedd Iago Emlyn, sef y Parchedig James James (1800-79), bardd ac ysgolhaig a fagwyd yn y Dinas ger Castellnewydd Emlyn. Ond o bosib mai'r bardd cyntafy ceir son amdano yn y llawysgrifau a gysylltir yn benodol ag Emlyn yw clerigwr y gellir dyddio ei ganu i ail hanner y bymthegfed ganrif, bardd-offeiriad a enwir Syr Phylib.2 Megis yn achos nifer o feirdd Cymraeg y ganrif honno, yn fawr a man, ni wyddys nemor ddim amdano; bwriad yr erthygl hon yw ceisio dadansoddi'r ychydig dystiolaeth a geir o'r cerddi a briodolir ac a ganwyd iddo. Os anfoddhaol yw hynny o wybodaeth sydd gennym am Phylib, gellid dadlau bod ei enw ei hun yn cynnig o leiaf rhyw fath ar fan cychwyn. Yn y bymthegfed ganrif, offeiriaid heb radd prifysgol, yn ogystal a marchogion, a olygid wrth y teitl 'Syr'; ond gallwn fod ar dir sicr ynglyn a galwedigaeth y Phylib hwn am fod bardd arall o'r enw Syr Lewys Meudwy yn ei alw yn urddol ac aberthwr, sef 'offeiriad'. Bardd, a bardd-offeiriad, oedd Phylib felly. A dyma'r offeiriad hwn, yn 61 y ffynonellau, yn dewis cael ei adnabod wrth enw bro Emlyn, a bron a bod yn brolio'r ffaith.3 Cyfyngir hynny o gyfeiriadau daearyddol a geir yng ngwaith Phylib i Geredigion, sir Gaerfyrddin a Brycheiniog; ond ar wahan i'r ffaith ei fod yn enwi Emlyn, ni cheir ganddo fanylion bywgraffiadol pellach. Nid peth newydd yw cael yn y llawysgrifau gerddi gwyr wrth grefydd ar y cyd ag eiddo beirdd wrth eu proffes. Ym MALDWYN, sef y mynegai cyfrifiadurol i'r farddoniaeth Gymraeg, rhestrir enwau dros gant o feirdd