Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SALEM, COEDGRUFFYDD, A SILOA, CWMERFYN Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd gogledd Ceredigion yn faes cenhadol toreithiog iawn i Anghydffurfwyr y dydd. Yr oedd yn Uwch-Aeron ym 1801 bum mil ar hugain o eneidiau, ac ym 1804 'ni fedrai'r dwsin offeiriaid plwyf gyfrif mwy na rhyw naw cant o gymunwyr yn eu llannau 0 gyfanrif y boblogaeth tynner allan y plant dan oed, dyweder o saith i wyth mil, ac yr oedd tua phymtheng mil o eneidiau y tu allan i'r eglwysi'.1 Apostol yr adfywiad Anghydffurfiol yn ei wedd annibynnol, oedd y Parchedig Thomas Phillips, Neuadd-lwyd (1772-1842), a blannodd eglwysi 'yn y rhimyn gwlad rhwng mynydd-dir Ceredigion a'r mor, o Aberaeron i Dal-y-bont'. Plannu eglwysi a wnai ef a cheisio denu eraill i'w bugeilio. Bu'n gyfrifol am gychwyn yr achos yn Llanbadarn Fawr a ledodd maes o law i dref Aberystwyth ac i'r pentrefi oddi amgylch. Camp fawr y genhedlaeth honno o bregethwyr oedd eu bod yn gyfathrebwyr effeithiol i'r werin-bobl ac yn hynod egniol. Un o'r gwyr diflino hyn oedd Azariah Shadrach (1774-1844), ysgolfeistr, pregethwr, ac awdur. Fe'i ganwyd yn Garndeilo- fach, Llanfair Nant-y-gof, sir Benfro, ond, yn grwt deng mlwydd oed, aeth i fyw at fodryb iddo yn Nhrewyddel. Yno, ymaelododd gyda'r Annibynwyr ac yn y man fe'i cyflogwyd yn was fferm i'r Parchedig John Richards, Rhyd-y-caerau, ar yr amod ei fod yn cael rhyddid i ddarllen llyfrau ei feistr yn ei oriau hamdden! Yn ei arddegau cynnar dechreuodd bregethu, ac ym 1797, yn 61 arfer y dydd, aeth ar daith bregethu ar draws siroedd y de. Y flwyddyn ddilynol aeth ar daith gyffelyb i ogledd Cymru lie cyfarfu a'r diwinydd, y Parchedig George Lewis, Llanuwchllyn, a oedd hefyd yn arolygwr nifer o ysgolion teithiol. Ar ei gymhelliad ef cytunodd Shadrach beidio a dychwelyd i'r de ond yn hytrach i gadw ysgol yn Llanrwst a phregethu yn yr ardal o gwmpas. Wedi iddo dreulio tymor yno symudodd i Drefriw, ac yna tua diwedd 1802 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar nifer o eglwysi'r cylch ar gyflog o £ 5 y flwyddyn. Apelio'n bennaf at y dosbarth gweithiol difreintiedig a wnai'r pregethwyr teithiol hyn, ond heb gefnogaeth gysgodol un