Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hughes emerges from this study as an admirable clergyman, committed to his faith and conscientious in the exercise of his duties, but also with the more exceptional ability to inspire his hearers and redirect the course of lives. Beyond this statement of his clerical virtues, however, we gain disappointingly little sense of the creature of flesh and blood. The author acknowledges as much at the end of a brief chapter on 'Family Life' when she notes the inadequacy of the surviving sources to produce more than a two-dimensional portrait. LIONEL MADDEN Aberystwyth BETHEL ABERYSTWYTH 1788-1889. CANMLWYDDIANT TY-CWRDD A THREM AR GANRIF, B. G. Owens. Aberystwyth, 1989. 44tt. £ 3. Pan godwyd Bethel, Eglwys y Bedyddwyr, Aberystwyth, ym 1889, dyma'r hyn a ddywedodd gohebydd lleol Seren Gomer: 'Bethel yw y capel prydferthaf yng Nghymru. Yr ydym wedi gweled llawer o addoldai o bob math yng Ngwynedd a'r De, ond addefwn yn rhwydd na welsom yr un yn rhagori ar Bethel mewn godidowgrwydd cynllun a gwaith.' Darllenais y geiriau hyn yn ystod yr union wythnos y bu Cyngor Tref Aberystwyth yn chwalu eglwys hardd Trefechan er gwaethaf cryn wrthwynebiad lleol. Yn wyneb y fath anfadwaith bu'n gysur cael troi at y llyfryn gwybodus a diddan hwn, sef hanes Eglwys Bethel rhwng 1788 a 1889. Ni ellid bod wedi rhwydo awdur cymhwysach i adrodd y stori na Mr. Ben Owens, ac yntau'n gyn-geidwad Adran Llawysgrifau Y Llyfrgell Genedlaethol, yn gyn-olygydd Trafodion Gymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, ac yn flaenor uchel ei barch a pharod iawn ei gymwynas. Dengys yr awdur fel yr ymgartrefodd Bedyddwyr tref Aberystwyth yn y lie cyntaf mewn ty ar rent yn Heol y Moch ym 1788, a bu'n rhaid aros tan 1799 cyn i dy-cwrdd cyntaf Bethel gael ei agor ar rimyn o dir a elwid yn Fane Wele Wele! Wedi marwolaeth y gweinidog cyntaf, Thomas Evans, ym 1801, gwaith anodd dros ben oedd ceisio cynnal brwdfrydedd oherwydd prinder nawdd ariannol a dihidrwydd. Ond llwyddwyd i ddygnu ami ac o dipyn o beth cryfhawyd yr achos yn ystod y blynyddoedd ar 61 1815. Erbyn diwedd y 1820au daeth yn amlwg i bawb o'r aelodau bod angen ty-cwrdd newydd a chwblhawyd y gwaith o ailadeiladu ym 1833. Pan ddigwyddodd Diwygiad Crefyddol 1859 yr oedd gan Fethel 296 o aelodau ac yr oedd 504 yn mynychu'r Ysgol Sul. Yn sgil y fath ffyniant bu'n rhaid codi capel helaethach a mwy ffasiynol. Wedi peth cecru ynglyn a dyfnder seiliau'r r muriau a wyneb y ffasad agorwyd yr Eglwys bresennol ym mis Hydref 1889. Bu Eglwys Bethel yn hynod ffodus yn ei hanesydd: y mae'r gwaith wedi ei seilio'n gadarn ar gofnodion gwreiddiol ac ymchwil ryfeddol o fanwl. At hynny, fe'i hysgrif- ennwyd mewn Cymraeg cyhyrog braf. Byddem oil ar ein hennill pe gellid dwyn perswad ar yr awdur i ymestyn ei lafur eto drwy fwrw trem ar y ganrif 1889-1989. Yn y cyfamser, dymunwn yn dda i Eglwys Bethel, gan hyderu y caiff flynyddoedd o lewyrch yn y dyfodol. GERAINT H. JENKINS Aberystwyth