'UN O'R HARDDAF YN Y PARTH HWN O'R SIR': ADNEWYDDU EGLWYS LLANILAR, 1873-4 Ym 1896 ymwelodd rhai aelodau o'r Gymdeithas Archaeolegol Gambri- aidd a nifer o eglwysi yng nghwm Ystwyth. Ar fore dydd Mercher, 9 Medi, arosasant yn Llanilar i fwrw golwg dros yr eglwys: Llanilar oedd eu man aros cyntaf ar y daith. Gadawodd dau o'r ymwelwyr ddisgrifiadau ysgrifenedig o'r eglwys. Un frawddeg yn unig a ysgrif- ennwyd gan un ohonynt: 'This is a small unpretentious building, with a squat Tower surmounted by a small spire'. Tybed ai dyna'r unig bethau a dynnodd ei sylw? Beth bynnag am hynny, gadawodd yr ail ymwelydd ddisgrifiad cryno a chyflawn o'r hyn a welodd. Yn wir, mae'r person hwn yn sylwedydd craff ac mae ei bortread geiriol yn ddisgrifiad cywir o gragen sylfaenol yr eglwys fel ag yr oedd gan mlynedd yn 61 a, gydag eithriad neu ddau, fel y mae heddiw: 'The church has nave and chancel only, with a tower at the west end. The tower is rather low but remarkably massive, without buttresses or string-courses, swelling outward at the base. It has an embattled parapet, and carries a short spire. At the north- east is a square stair-turret, has some plain narrow openings, one at the west is arched. The south porch has a plain pointed doorway; the north door is closed. The windows are nearly all poor modern Gothic, but the walls are old, and there is on the north side of the sacrarium an original lancet, perfectly plain and open as a window. The original roof remains, of open timbers, with quatrefoil in the framework in Welsh fashion. There is no chancel arch; the nave is paved, neat, but dreary; there is a priest's door'.2 Saif yr eglwys ar Ian yr Adail, afonig sy'n llifo i mewn i afon Ystwyth ar ei hochr chwith. Mae peth aniscrwydd ynghylch y cenhadwr a sefyd- lodd yr eglwys gyntaf ar yr un safle, ac mae peth amheuaeth hefyd ynghylch yr enw iawn a ddylid ei roi i'r eglwys bresennol. Mae'n cael ei harddel naill ai fel eglwys 'Saint Hilary', ar 61 y sant Ffrengig enwog, Hilary o Poitiers, neu fel eglwys Sant liar, un o'r seintiau Celtaidd llai pwysig a drigai naill ai yn ystod y chweched ganrif neu'r seithfed ganrif wedi geni Crist. Awgryma'r diweddar Athro E.G. Bowen fod liar yn un o'r cenhadon teithiol, y 'peregrini' a ddaeth drosodd o Ffrainc i Gymru ac ymsefydlu yn Llanbadarn Fawr. O'r fam eglwys honno yr aeth rhai ohonynt, ac liar yn eu mysg, allan i genhadu ac i sefydlu eglwysi bychain ymhlith trigolion paganaidd gogledd Ceredigion. 3 Mae'r awgrym hwn, rywsut, yn swnio'n fwy derbyniol o safbwynt hanesyddol na'r traddodiad sy'n cysylltu'r eglwys a Hilary o Poitiers. Ond eto, rhaid cydnabod mai