mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru. Ond heb undod a chyd-ddyheu o fewn Cymru nid oedd obaith yn unig esgor ar Gymru annibynnol. Yn y diwedd gyrrwyd Llywelyn yn 61 i'w gadarnle yn Eryri allan o gyrraedd y brenin, a chawn dystiolaeth mai ar ei ddeiliaid yng Ngwynedd y syrthiodd baich trymaf y gost o gynnal ei ymgyrchoedd fel nad yw'n rhyfedd iddo, oherwydd straen rhyfel ac anghenion ariannol na welwyd erioed mo'u bath, gael ei gyhuddo o ormes llywodraethol. Un o'i wrthwynebwyr pennaf oedd Anian ab Ynys o Nannau, esgob Llanelwy (un o'r Dominicaniaid) a gwynodd yn ei erbyn wrth y Pab Gregori. Eto, ar 7 Mawrth 1274 daeth abadau saith o fynachlogydd y Sistersiaid yn y dywysogaeth ynghyd yn Ystrad Fflur a chyfansoddi llythyr at y Pab yn ymbilio arno i beidio a rhoi coel ar gwynion Anian, gan ddal nad gorthrymwr mynachlogydd mohono ond amddiffynnwr cryf a rhagorol eu buddiannau hwy ac eiddo urddau eraill o'r Eglwys. Stori drist i'r eithaf yw hanes ei briodas ag Elinor, merch Simon de Montford, a thras- iedi fawr fu ymdrech Dafydd, ei frawd, ac yntau i fwrw oddi arnynt iau caled Edward. Fe'i denwyd, o bosib, i Fuellt ac wrth adfyddino ar Ian afon Irfon, ger Llanfair-ym- Muallt, syrthiodd i gleddyfmilwr o Sais ar 11 Rhagfyr 1282. Anfonwyd ei ben at y brenin i'w arddangos yn Llundain a chladdwyd ei gorff yn Abaty Cwm Hir. Ffrwyth llafur enfawr yw'r gyfrol hon ac y mae arnom ddyled i Mr. Beverley Smith am glasur o astudiaeth o Lywelyn, yr olaf o dywysogion Cymru, yn ogystal a phortread treiddgar o'i gyfnod. David Jenkins Penrhyn-coch OWAIN GLYNDWR, John W. Roberts, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1985. 19 tt. £ 1.50. Fe fydd unrhyw un a chanddo'r cyfrifoldeb deuol o ddysgu hanes Cymru yn ein hysgol- ion neu'n colegau a cheisio ar yr un pryd faethloni profiad ei blant ei hun yn rhuddin ein gorffennol yn gwybod yn iawn mai tasg enbyd o anodd yw ennyn a chadw diddordeb ieuenctid yn hanes eu cenedl. Testun calondid a menter i'w chroesawu'n frwd, felly, yw'r Project Defnyddiau ac Adnoddau o dan Gynllun Gwerslyfrau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, yn arbennig, ei gynnyrch diweddaraf, sef gwerslyfr ar Owain Glyndwr. Mae'r llyfryn yn gymen ac atyniadol ac yn cyflwyno bywyd a chyfraniad Glyndwr i ddatblygiad y genedl mewn modd cymeradwy iawn. Yr arwr ei hun yw ffigwr canolog yr ymdriniaeth ac er bod rhai agweddau pwysig, megis datblygiad y gwrthryfel a natur y gefnogaeth a gafodd, yn dueddol i fynd ar goll, fe ddichon fod gosod y pwyslais ar gerrig milltir pwysicaf bywyd Glyndwr yn ddigon teg mewn cyflwyniad o'r math hwn. Er hynny, y mae ystyriaethau y gellid eu datblygu yn rhannau cyntaf y llyfr. Er enghraifft, fe nodir traddodiadau a buchedd teulu Sycharth yn ystod ieuenctid Owain ond nid yw'r awdur yn tanlinellu'r ffaith mai darlun o gydweithredu a chyfaddawdu a geir ym mywyd cynnar y gwrthryfelwr ac mai annisgwyl, a dweud y lleiaf, oedd ei safiad yn erbyn y goron. 0 safbwynt hanes Ceredigion hefyd, fe ddylid codi cwestiwn ynglyn a'r gosodiad i'r gwrthryfel ledu 'yn wenfflam trwy'r wlad' ar fyrder, o gofio'r trobwynt a gafwyd ar fynydd Hyddgant a barodd i farwydos y misoedd cynnar i gynneu'n fflam yn ystod yr haf wedi'r safiad cychwynnol. Y mae un neu ddau o fannau eraill hefyd yn y llyfr sy'n peri peth anesmwythyd. Fe ddylid esbonio, er enghraifft, mai cymal a ddeddfwyd mewn adwaith i wrthryfel Glyndwr yw'r dyfyniad ar dudalen 6, He nodir i'r llywodraeth