Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU/REVIEWS LLEWELYN AP GRUFFUDD TYWYSOG CYMRU. J. Beverley Smith Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986. 460 tt. £ 15.95. Astudiaeth fywgraffyddol o Lywelyn ap Gruffudd-tywysog olaf Cymru-yw'r gyfrol hon, ac er mai ar gyfer myfyrwyr dosbarthiadau'r Colegau y bwriadwyd y gwaith, ni ddylai hynny fod yn rhwystr yn y byd i leygwyr ei fwynhau a dysgu Uawer iawn am un o gyfnodau mwyaf tyngedfennol Cymru. Ceir yma nid yn unig fywgraffiad o wyr Llywelyn Fawr ond hefyd bortread o fan dywysogion hunangar na fynnent eu huniaethu eu hunain a'i weledigaeth genedlaethol ef, ac am hynny, fe aberthwyd pob gobaith am annibyniaeth Cymru. Fel y dywed yr awdur, ychydig o sylw arbenigol a gafodd Llyw- elyn ap Gruffudd hyd yma, o'i gymharu ag Owain Glyndwr, dyweder, ond bu'n werth aros am y gyfrol feistrolgar hon sy'n gwbl deilwng o'r gyfres gynyddol o astudiaethau pwysig a ddaw oddi wrth aelodau staff Adrannau Hanes Cymru y Brifysgol. Darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth a wna Mr. Beverley Smith ac y mae ei ryddiaith gyhyrog yn dystiolaeth hyglyw o hyblygrwydd grymus yr iaith Gymraeg fel cyfrwng addysg uwchradd. Y mae'r cefndir hanesyddol a geir yn y bennod gyntaf, sy'n cynnwys braslun o strateg- iaeth Henri III (tad Edward 1), yn arweiniad gwerthfawr i'r darllenydd fel y gallo'n haws ddeall y problemau enfawr a wynebai Llywelyn a'.r rhesymau am fethiant ei ymdrech lew i greu gwladwriaeth Gymreig. Oherwydd ei allu i drin ei ffynonellau gwreiddiol, yn arbennig y rhai Lladin, y mae Mr. Smith wedi llwyddo'n ddeheuig i ddehongli inni gymhellion Llywelyn, ei gyfeillion a'i elynion, ac wrth hynny rhydd inni ddarlun byw a dilys o'r cyfnod a'r prif gymeriadau. Tuedd gref i ramantu'r hanes fu gwendid rhai haneswyr cyn hyn ond y mae'r astudiaeth dreiddgar a chytbwys a geir yma'n gyfraniad gwerthfawr iawn i lenyddiaeth hanes Cymru. Cawn yma ddarlun o'r arwr blaengar, aberthol, bid siwr, ond dysgwn hefyd am ei drahauster, ei gwerylon a'r Eglwys, y driniaeth lem (onid yn wir, greulon) a dderbyniodd ei frodyr oddi ar ei law, heb son am y baich cynhaliol trwm a ddygwyd gan ei ddeiliaid yng Ngwynedd, yn unig er mwyn iddo droi cynghrair o fan dywysogion Cymreig, a aethai i ryfel gyda'i gilydd yn erbyn Edward I a'i farwniaid, yn gyfansoddiad gwleidyddol safadwy. Dro ar 61 tro fe ddiddyfnwyd nifer ohonynt (gan gynnwys ei frawd Dafydd) oddi wrtho gan y brenin Edward, gan wireddu darogan Gerallt Gymro 'rhanned eu nerthoedd a deued rhai o'i plith hwy eu hunain fel y bo iddynt ddrysu ei gilydd.' Bu hynny'n nychtod ar Gymru o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd ein dyddiau ni! Yn nechrau Rhagfyr 1256, wedi dwyn Meirionydd o dan ei arglwyddiaeth union- gyrchol, croesodd Llywelyn Afon Ddyfi, gan feddiannu Cwmwd Perfedd (rhwng afon- ydd Ystwyth a Chlarach) a'i drosglwyddo i Faredudd ab Owain a dyngodd lw o ffyddlon- deb i'r tywysog ar Morfa Mawr. Aeth Llywelyn yn ei flaen i'r de i sicrhau cydweithred- iad Maredudd ap Rhys Gryg a reolai Ystrad Tywi o gastell y Dryslwyn. Ar sail y ddeall- twriaeth rhwng y ddeuddyn hyn mwy na dim arall, medd Mr. Smith, y codwyd yr undod newydd a welwyd yng Nghymru ym 1257. Ond byrhoedlog a fu'r gyfeillach oherwydd erbyn yr hydref dilynol trodd Maredudd ei gefn ar Lywelyn a gwneud gwrogaeth i'r brenin yn Llundain. Eto i gyd, cydnabuwyd ef yn uwch-arglwydd gan arglwyddi Cymreig y Deheubarth a gogledd Powys y flwyddyn honno ac ym mis Mawrth 1258