Prin iawn oedd yr arweiniad a gai offeiriaid gan esgobion ac uchel- eglwyswyr. Gweision ufudd i'r drefn Hanoferaidd oedd esgobion Cymru, hynafgwyr brithlwyd na wyddent yr un gair o Gymraeg. Yn eu tyb hwy, penyd nid anrhydedd oedd llenwi cadair esgob yng Nghymru ac yn anfynych iawn y byddent yn ymweld a'u hesgobaethau er mwyn dod i adnabod eu hoffeiriaid a'u preiddiau. Adar ar adain oedd Uawer ohonynt: dim ond am wyth mis yr arhosodd Elias Sydall ym 1731 a llwyddodd Robert Lowth i gael ei draed yn rhydd wedi pum mis yn unig ym 1766. Corlan y defaid gwlanog oedd uchelfannau'r gyfundrefn eglwysig, a gofalai'r esgobion Seisnig mai eu cyd-wladwyr a'u perthnasau a gai bob swydd o werth yn Nhyddewi. Penodid estroniaid diGymraeg i'r bywol- iaethau mwyaf cyfoethog a dim ond y rheini a oedd yn ddigon digywilydd i gynffonna am ddyrchafiad a enillai wobrau bras. Yr oedd tuedd gynyddol ymhlith offeiriaid i geisio plesio tirfeddianwyr grymus drwy geisio arddangos ffrwyth eu haddysg Seisnig yn y pulpud ar y Sul ac i fwrw sen ar yr iaith Gymraeg a'i diwylliant. A buan yr aeth y si ar led fod y sefydliad eglwysig a'i fryd ar ddileu mamiaith y Cymro. 0 ganlyniad, ysgogwyd eglwyswyr blaengar yng Nghymru i achwyn yn dost ynglyn a llesgedd, llygredd ac anghymreigrwydd y sefydliad eglwysig. Ymhlith y beirniaid mwyaf miniog a gonest yr oedd Moses Williams, Griffith Jones ac Evan Evans, y cyntaf a'r olaf ohonynt yn feibion o Geredigion a'r tri ohonynt wedi eu geni a'u magu yn esgobaeth Dewi. Ar wahanol adegau ac mewn gwahanol ffyrdd bwriodd y tri ohonynt eu llinyn mesur dros yr eglwys, gan ennyn Hid a dieter ar bob Haw. Un o ser disgleiriaf cylch llenyddol Dyffryn Teifi oedd Moses Williams. Fe'i ganed ar 2 Mawrth 1685, naill ai yng Nghellan neu Landysul, ac ar 61 derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin aeth yn ei flaen i Brifysgol Rhydychen a graddio yno ym 1708.5 Syniai Edward Lhuyd, prif ysgolhaig Cymru ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif, yn uchel iawn am ei alluoedd ac fe'i penodwyd yn is-lyfrgellydd Amgueddfa Ashmole. Gan Lhuyd y cafodd Moses Williams yr ysbrydoliaeth i ofalu bod etifeddiaeth farddol a llenyddol Cymru yn cael ei chadw'n fyw. Casglodd a chopiodd doreth o hen lawysgrifau gwerthfawr a phe buasai wedi llwyddo i ennill nawdd helaethach byddai wedi cyhoeddi Geiriadur a Gramadeg Cymraeg, casgliad o drioedd, a mynegai i farddoniaeth Gymraeg. Eto i gyd, er gwaethafllawer o anawsterau, llwyddodd i ddwyn nifer o weithiau pwysig drwy'r wasg. Bu'n golygu gwaith William Baxter a William Wotton, a chyfrifir Cofrestr (1717) yn sylfaen i bob astudiaeth lyfryddiaethol Gymraeg. Dan ei olygyddiaeth ef y cyhoeddwyd dau argraffiad sylweddol iawn o'r Beibl Cymraeg ym 1717-8 a 1727. At