Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dwy gyfrol werthfawr o'r cyfrifon o'r dechrau hyd 1857.10 Simsan, fodd bynnag, oedd seiliau mwyafrif mawr y clybiau cynnar hyn, ac nid rhyfedd mai darfod a wnaeth llawer ohonynt oherwydd anonestrwydd neu ddiffyg profiad swyddogion a man gynhennu'r aelodau. Ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif yr oedd y Llywod- raeth wedi sylweddoli eu pwysigrwydd ym mhatrwm y bywyd cyfoes, a daeth tro er gwell yn eu hanes gyda phasio Deddf enwog George Rose yn 1 793 — An Act for the protection and encouragement of Friendly Societies,'11 a mwy o lwyddiant a sadrwydd fyth gyda'r ami ddiwygio ar y ddeddf honno ar hyd y ganrif ddiwethaf. Nid syndod o gwbl felly fod ardal fel Gogledd Ceredigion yn gynnar/iawn yn y ganrif ddiwethaf yn frith o fan glybiau o bob math, a chynifer o leiaf ag wyth yn nhref Aberystwyth ei hun,12 ond pwysig cofio mai clybiau cwbl leol oeddynt o hyd, heb gysylltiad a neb o'u cymheiriaid, ac heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw gorff canolog. A'u hannibyniaeth, yn y pen draw, oedd eu gwendid. Aeth amryw i'r gwellt, fel y dangosodd yr Athro Dodd,13 oherwydd mynych dorri'r banciau tynged y gweddill, yn 61 un gohebydd ffraeth o'r cyfnod,14 oedd eu llyncu fel gwartheg culion Pharao gynt, y tro hwn gan yr undebau ceinciog y rhoddwyd cymaint hwb i'w cychwyn gan siomiant y Reform Bill' (1832) ac yn arbennig arswyd Deddf y Tlodion (1834), gyda'i phwyslais creulon ar y Wyrcws'.15 A'r mwyaf diddorol yn ddiamau o'r undebau hyn oedd Iforiaeth, yn syml oherwydd mai mudiad cwbl Gymreig ydoedd, er iddo yn ei anterth ennill tir dros y gororau ac ymledu hyd yn oed cyn belled ag America. Cynllunydd Iforiaeth (a alwyd felly wrth enw Ifor ap Llywelyn neu Ifor Hael o Fasaleg) oedd lienor brwd o'r enw Thomas Robert Jones, a aned ym Maes Gwerful, Llannefydd, ond a fwriodd ei oes gan mwyaf yn Wrecsam,18 ac yn y dref honno y cychwynnwyd y mudiad ar 6 Mehefin 1836, dan arwydd y Drylliau Croesion, Heol yr Abad.' Seren Gomer yw prif ffynhonnell yr hanes sydd ar gael am ddydd y pethau bychain hyn,17 ond ychydig o wybodaeth sydd ar gof a chadw hyd Ebrill 1838 pryd y cyhoeddwyd bod aelodaeth y gyfrinfa gyntaf (a alwyd yn briodol yn Gwerful ') wedi codi i 252, deuddeg arall wedi eu sefydlu yn y Gogledd,18 a chyfrinfa gyntaf y Deau, wrth yr enw Dewi Sant,' wedi ei hagor yng Nghaerfyrddin ar y 24 o'r mis.19 Ond erbyn Mehefin 1840 yr oedd y mudiad wedi ei rwygo o'r brig i'r bon, ac er nad hawdd nithio holl dystiolaeth y cyfhodolion cyfoes gan chwerwed eu rhagfarn, y mae'n eglur mai T. R. Jones ei hun oedd gwraidd y gynnen. Ymadawodd ef a Chyfrinfa'r Drylliau Croesion (a symudasai erbyn hyn i'r Tair Casgen ') a sefydlu cyfrinfa sblit yn y 4 Cadnawon Croesion,' a'r anhawster oedd penderfynu'n gyntaf paham y cefhodd, ai o raid neu o'i wirfodd, ac yn ail ai sefydlu cyfrinfa