YMFUDO 0 SIR ABERTEIFI I UNOL DALEITHIAU AMERICA O 1654 HYD 18601 (Parhad) III. 1795 — 1860 YN y rhestrau a argraffwyd ar ddiwedd yr ysgrif gyntaf amcangyfrifais fod nifer yr ymfudwyr o sir Aberteifi yn y cyfnod rhwng 1795 a 1860 yn 5,556. Yr oedd hyn yn gyfartaledd o bron ddeg y cant o'r boblog- aeth, ac felly saif y sir yn ail uchaf ar y rhestr--Meirionnydd yn unig sydd yn uwch, gyda chyfartaledd o bron dri-ar-ddeg y cant. Gwelir mai'r siroedd mwyaf amaethyddol a dollwyd drymaf. Dangosais hefyd mai i dalaith Ohio yr aeth torraeth yr ymfudwyr o'r sir, sef 2,783, o'i gyferbynnu ag 873 a aeth i dalaith Pennsylvania, 633 i dalaith New York, a 675 i Wisconsin. Gwelir mai yn y tri-degau a'r pedwar-degau yr aeth y mwyafrif drosodd, sef 4,101 rhwng 1831 a 1850. Gadawodd pobl o'r sir eu hoi yn drwm ar dalaith Ohio, a hwy yw rhai o'r masnachwyr mwyaf yn ninas Cincinnati. Yr hyn sydd yn taro'r llygad yn yr ystadegau yw'r ymfudo trwm a fu o Flaen Pennal, sef 232, a 166 ohonynt wedi myned allan rhwng 1841 a 1850. Trwm oedd yr ymfudo hefyd o Gilcennin, sef 192, a 103 ohonynt hwythau wedi myned rhwng 1831 a 1840, ond bu'r ymfudo o Langeitho — 427 — yn drymach nag o un ardal wledig arall yn y sir. Weithiau cynorthwyid rhai i ymfudo gan y plwyfi yn y festriau. Ceir enghreifftiau lawer o hynny yng nghofnodion y plwyfi, fel yr un a ganlyn o Lyfr Festri Betws Ifan March 18 1818 was agreed then to give Evan Evans Llanfawr Wern the sum of Twenty pounds towards assisting him and his family to emigrate to Halifax North America which sum of Twenty Pounds the overseer is hereby authorized to borrow and to give a Note upon demand for the same in the name of the Parishioners and for which legal interest is to be paid until the same be liquid- ated. Yr oedd cyflwr Cymru yn y blynyddoedd 1817 a 1818 yn ddifrifol, newyn yn y tir, a'r amaethwyr yn methu talu eu rhenti yn wir, yr oedd yn waeth arnynt hwy nag ar eu gweision. Pan chwiliodd Com- isiynwyr y Llywodraeth i'w hachos yn y flwyddyn 1818 cafwyd cwynion echrydus, megis yr hyn a geir yn adroddiad Mr. Murray fod tua 60 fferm o 50 i 250 o aceri heb neb ynddynt, a thystiolaeth y Parch. D. Williams, Llanbedr-pont-steffan, fod deuddeg o'r ffermydd mwyaf, o £ 40 i £ 250 y flwyddyn, A neb yn eu dal, fod llawer o dan rybudd i 1Am y rhan gyntaf gweler tud. 160-9.