YMFUDO 0 SIR ABERTEIFI I UNOL DALEITHIAU AMERICA 0 1654 HYD 18601 I. 1654-1794 UN o'r penodau duaf yn hanes Cymru a Lloegr yw honno ar hanes eu gwaith yn caniatau anfon pobl-gan gynnwys merched a phI ant- i Virginia, Lloegr Newydd, ac Ynysoedd India'r Gorllewin i ddatblygu planigfeydd siwgr a thybaco i fasnachwyr, gan rwymo plant o ddeg oed i fyny am gyfnodau yn amrywio o chwech i ddeuddeng mlynedd, a hynny mewn gwlad bell, ddieithr. Yn y flwyddyn 1645 pasiwyd Deddf Seneddol a elwid An Ordinance of the Lords and Commons assembled in Parliament, for the apprehending and bringing to condigne punishment, all such per sons as shall steale, sell, buy, inveigle, purloyne, convey, or receive any little Children, and for the strict and diligent search of all Ships and other vessels on the River, or at the Downes. 9 May 1645. Ymddengys iddynt basio'r Ddeddf hon oherwydd fod amryw bersonau yn myned i fyny ac i lawr i Lundain i gyflawni gweithredoedd ysgeler, yn y dull mwyaf barbaraidd ac anfad, trwy gymryd neu ladrata plant. Trwy'r Ddeddf gosodwyd ar yr ustusiaid i gadw'u llygaid yn agored irwystro pobl feius yn y trosedd ofnadwy hwn, a oedd yn prynu, ysbeilio, cario, neu dderbyn plant, i fynnu eu carcharu'n ddiogel hyd oni ddygid hwy o flaen eu gwell. Yn 1654, yn ystod teyrnasiad Oliver Cromwell, pasiwyd i ddeddfu eu bod, cyn byrddio pobl ar longau, yn eu hamodi (article) a'u cofrestru (enrol) yn union fel yr arferid gyda phrentisiaid tref neu ddinas. Yn ddiweddar daeth i olau dydd yn swyddfa Corfforaeth Bryste ddogfennau gwerthfawr yn cofnodi 10,000 o ymfudwyr o'r porthladd hwnnw rhwng y blynyddoedd 1654 a 1685, a bu imi amcangyfrif fod o leiaf 3,936 o'r deng mil yn Gymry o Gymru a Mynwy. Cofnodir dyddiad y cofrestru, enw'r gwas, y lie y deuai ohono, enw ei feistr, y lie yr anfonid ef iddo, cyfnod y gwasanaeth, a chyflwr y gwaith. Rhwymid prentisiaid dinas am saith, wyth, neu naw mlynedd, ond yr oedd y gweision a anfonid dros y mor i'w rhwymo am bedair neu bum mlyn- edd a chyflwr eu gwaith i'w yswirio. Ar derfyn y cyfnod yr oeddynt i dderbyn tiroedd ac arian, ac os yn Virginia y byddent yr oeddynt i gael ty a bwyell a chyflenwad digonol am flwyddyn, ynghyd a dwy siwt o ddillad. O 1654 hyd 1663 aeth 2,075 o Gymry allan, sef cyfartaledd o 231 y ilwyddyn. 0 1664 hyd 1679 aeth 1,686 ohonynt allan, cyfartaledd o ^Anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberystwyth, 4 Rhagfyr 1954.