Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GRONFA GYNULLEIDFAOL AC ANNIBYNWYR CYMRU Yng nghyfarfodydd blynyddol tanysgrifwyr Colegau Aberhonddu a Bala-Bangor yn unig y clywir sôn heddiw am Fwrdd y Gronfa Gynulleidfaol, ond fe fu amser pan oedd pob eglwys, gweinidog a myfyriwr Annibynnol yng Nghymru yn dra ymwybodol o'r Gronfa yn Llundain. Diwrnod llawen ym mlwyddyn llawer i weinidog oedd hwnnw pan gyrhaeddai'r llythyr 0 Lundain ac ynddo ordor am swm yn amrywio 0 dair i wyth punt. Y mae cofnodion y gwaith da hwn (i ddefnyddio ymadrodd y cofnodion eu hunain) ar gael yn y Memorial Hall, Llundain, mewn rhyw bedair cyfrol ar hugain. Y maent 0 bwys i'r neb a gais olrhain hanes eglwysi Anni- bynnol Cymru ar fwy nag un cyfrif. Gan y cofnodir pob taliad gan y Bwrdd dan ei ddyddiad priodol, rhoddant awgrym go bendant am hynt a helynt y derbynwyr-yn eglwysi, gweinidogion, myfyr- wyr ac academïau. Dangosant hefyd fod cronfa gynorthwyol sylweddol iawn tucefn i'n heglwysi yn eu dyddiau cynnar a thrwy gyfnod eu tyfiant. (Fe gofir bod dwy gronfa arall y gallai'r eglwysi dynnu arnynt, sef y Bwrdd Presbyteraidd a'r Dr. Williams Trust). Yn y papur hwn amcenir at esbonio dechrau'r Gronfa, amlinellu ei hamcanion, dangos hyd a lled ei gweithgarwch yng Nghymru yn y blynydd- Y COFIADUR (Y Dechreuadau) Y Cofnodion