yn ymyl Bathurst, ac wrthi'n dyfal gloddio am y llwch melyn. Nid oedd fawr neb ar ôl yn ninas Sydney ei hun ond yr hen a'r methedig, gwragedd a phlant a chyn gynted ag yr angorai llong yn yr harbwr ofer fyddai ceisio cadw'r criw rhag hel eu traed am y diggings. Ond er pwysiced ydoedd y darganfyddiadau yn New South Wales, nid oeddynt yn ddim o'u cymharu â'r rhai yn Victoria yr un flwyddyn-yn Clunes fis Gorffennaf, yng nghymdogaeth Ballarat yn Awst, Bendigo fis Rhagfyr, a'r flwyddyn ddilynol ar lannau'r Ovens River ac yn Castle- maine ar lechweddau Mount Alexander. Gwedd- newidiwyd bywyd y dalaith ifanc o Melbourne, y brifddinas, tyrrai cannoedd yn feunyddiol i'r cloddfeydd-yn wyr o bob dosbarth o gymdeithas ­dliogwyr pen stryd, labrwyr, clercod a siopwyr- gan adael eu meistriaid, eu gwragedd a'u teuluoedd i ofalu amdanynt eu hunain. Erbyn diwedd Rhagfyr 1851, dywedid nad oedd ond dau blisman yn aros yn Melbourne i gadw trefn ar boblogaeth o 28,000 Nadolig bythgofiadwy oedd Nadolig y flwyddyn honno, pan ddychwelodd miloedd o fwynwyr i'r ddinas i fwrw'r gwyliau. Rhedai arian fel dwr er gwaetha'r codiad aruthrol ym mhrisiau nwyddau o bob math sonnir am wyr yn tanio'u pibellau â nodau banc, ac yn eu bwyta rhwng tafellau o fara-menyn hyd yn oed Nid cynt y lledaenwyd yr hanes ym Mhrydain a'r gwledydd eraill am Ballarat a'i gyfoeth nag y cychwynnodd y rhuthro gwyllt ar draws y mor- oedd. Ym mis Medi 1852, glaniodd 19,000 0 ymfudwyr yn Port Philip, porthladd Melbourne,- dros deirgwaith y nifer am yr wyth mis blaenorol gyda'i gilydd — a'r mwyafrif ohonynt yn ddynion ieuainc, cyhyrog, nwyfus, yn drwm dan dwymyn yr aur, a'u bryd ar wneud eu ffortiwn. Meddai Dysgedydd Hydref y flwyddyn honno