Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drachefn, yn y Public Record Office yn Llundain o ymfudwyr i Ddeau Awstralia yn 1839 a 1840, gydag ambell Gymro a Chymraes yn eu plith, gan mwyaf o siroedd Morgannwg a Mynwy.1 Ac i'r un dalaith denwyd amryw eraill — gwŷr Cwmtawe o bosibl-pan ddarganfuwyd copr yno yn 1844.2 Eithr, yn sicr, gwannaidd a gwasgaredig i'r eithaf ydoedd unrhyw gynulliadau o Gymry yn Awstralia yn y cyfnod hwn. Nid oedd poblogaeth y cyfandir i gyd ond bach ryfeddol, a'r mwyafrif mawr yn ffermwyr, bugeiliaid a chneifwyr ar wastatiroedd eang y fam-dalaith, New South Wales, a'u bywyd yr un mor batriarchaidd bron â'r un a ddarlunnir yn yr Hen Destament. Yna, ar drothwy ail hanner y ganrif, yn 1851, torrwyd ar heddwch y bywyd hwn gan y newydd fod aur wedi ei ddarganfod yno a hefyd yn Victoria, a ddaeth yn dalaith annibynnol ar New South Wales yr un flwyddyn. Yn Sloughton yn Neau Awstralia yr oedd Cymro o'r enw Robert Chidlaw Roberts ar ganol sgrifennu llythyr adref at ei frawd yn Nolgellau pan glywodd am y dargartfyddiadau hyn. Er pan ddechreuais y rhan gyntaf o'r llythyr hwn,' meddai, tua mis yn ôl daeth i'r dalaeth hon newyddion am í ŵn aur yn nhalaeth New South Wales, tua 150 o filldiroedd o Sidney. Yn ôl yr hanesion a dderbyniwyd, y mae yn debygol o ragori ar Calrfornia.' Ac yna, meddai drachefn, yn nes ymlaen Er pan ysgrif- enais y llinellau blaenorol cafwyd newydd am fwn aur llawn cystal yn agos i Melbourne.'3 Y pymtheg- fed o Fai yw dyddiad ei lythyr erbyn y cyntaf o Fehefìn yr oedd dros ddwy fil o bobl wedi heidio i Summer Hill Creek, cangen o'r afon Macquarrie, IP.R.O., C.0.386/149-51. 2Cofiant (mewn llawysgrif) y Parch. William Meirion Evans a gopiwyd gan Mr. Bob Owen. Dywaid W.M.E. fod cannoedd o Gymry yn gweithio yn Burra-Burra, canolfan y diwydiant copr, yn 1849. 8F Dysgedydd, 1852, 174-6.