Y COFIADUR ANNIBYNWYR CYMRAEG AWSTRALIA Dylwn ddweud ar y dechrau mai'r hyn a awgrymodd i raddau helaeth destun y papur hwn oedd y gyfres o ysgrifau diddorol dan y pennawd Blwyddyn yn Awstralia a gyfrannodd yr Athro J. Oliver Stephens i'r Dysgedydd ychydig dros ugain mlynedd yn ô1.1 Ac yn enwedig yr ysgrif honno lle'r ymddengys y geiriau a ganlyn Nac anghofier Eglwysi Cymraeg Awstralia pan yn ysgrifennu hanes cyflawn ein henwad. A ydyw ym mryd ein Cymdeithas Hanes i chwilio helynt ein henwad yn Victoria a'r taleithiau eraill ? '2 Wrth ddarllen y geiriau hyn, cofiais fod ymhlith trysorau Llyfrgell Coleg y Gogledd gyfres gyflawn o'r Australydd, y sonia'r Athro amdano — cylch- grawn Cymry Cymraeg Awstralia, a gychwynnwyd yn 1866, ac a barhaodd hyd Orfiemmí 1872. A chan sylweddoli, hefyd, bod rhan helaeth o gynnyrch gwasg gyfnodol Gymraeg a Chymreig y ganrif ddiwethaf beunydd o fewn fy nghyrraedd, teimlais na allwn lai na cheisio ymateb i gri'r Athro Stephens a rhoi cynnig ar lanw'r bwlch arbennig hwn yn hanes Annibyniaeth Gymraeg. Tenau ddigon yw'r dystiolaeth i ymfudo ar unrhyw raddfa eang o Gymru i Awstralia cyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyfeiria Hanes yr Eglwysi at bedwar ar ddeg o ieuenctid Bethlehem, Blaenafon, Sir Fynwy, yn troi eu hwynebau tuag yno yn ystod gweinidogaeth Morgan Morgans, sef rywdro rhwng 1828 a 1836.3 Ceir rhestr swyddogol, 11931, 51-4, 71-5, 107-12, 186-90,364-9; 1932, 16-20, 71-7. 21931, 189. 31, 150,