Y COFIADUR ADDYSG GREFYDDOL YNG NGHYMRU YN OL Y LLYFRAU GLEISION. PENNOD I RHAGARWEINIOL ab y degfed dydd o Fawrth, 1846, fe gododd William Williams (yr Aelod Seneddol dros Coventry) i gynnig y penderfyniad canlynol yn Nhy'r Cyffredin "That an humble Address be presented to Her Majesty that she will be generously pleased to direct an Inquiry be made into the state of Education in the Prínoipalìty of Wales, especially into the means afforded to the labouring classes of acquiring a knowledge of the English Language". Manteisiodd ar y cyfle hwn i draethu ei farn ar gyflwr addysg yng Nghymru ac i awgrymu sut y gellid gwella pethau. Maentumiai fod safon addysg yng Nghymru yn is nag mewn unrhyw ran arall o Brydain. Cymraeg ydoedd yr iaith a ddefnyddid gan werin Cymru ond (meddai) ni chyhoeddasid unrhyw weithiau pwysig yn yr iaith honno ers amser maith. Barnai mai anfantais fawr i'r Cýmry ydoedd y ffaith nad oedd ganddynt gyfleusterau i ddysgu Saesneg er eu bod yn awyddus i'w cael. Esgeulusasai gwyr bonheddig Cymru eu dylet- swydd o hyrwyddo addysg y bobl, ac ni orfodasid hwy i godi a chynnal ysgolion ym mhob plwyf, fel y gwneid yn yr Alban. Pwysleisiai ddymuniad gwerin Cymru i ddysgu Saesneg yn ogystal â Chymraeg ac awgrymai mai'r unig obaith am ddiwygio addysg yng Nghymru ydoedd cael grantiau oddi wrth y Llywodraeth. Gallesid osgoi cyffro'r Siartiaid a 'Beca pe darparesid digon o gyiieusterau addysg.