Y COFIADUR TREFNIADAETH RYNGEGLWYSIG YR ANNIBYNWYR Ym merw'r Diwygiad Protestannaidd, cym- hlethwyd bwriadau'r Diwygwyr yn Lloegr gan ystyriaethau gwleidyddol. Ni fynnai'r Fren- hines Elisabeth ddiwygiad eithafol, ac ymladdodd trwy gydol ei theyrnasiad hir i amddiffyn y drefn a sefydlodd yn ei blynyddoedd cyntaf. Ni fodlonai hyn bawb ac ymddangosodd y Presbyteriaid a'r Annibynwyr-y dosbarth cyntaf yn aros y tu mewn i'r eglwys sefydledig i geisio ei lefeinio a'i diwygio a'r dosbarth olaf yn credu mai gwaith i'r eglwys ei hun oedd penderfynu natur ei llyw- odraeth. "Diwygio heb aros wrth neb," oedd cri Robert Browne a'i ddilynwyr. Yr oedd a wnelo'r gwahaniaethau cynnar hyn â dull yr Annibynwyr o gyflwyno eu cenadwri. Dadleuent ac ysgrif- ennent gan gadw'r Anglicaniaid a'r Presbyteriaid beunydd o flaen eu llygaid. Lluniant eu dadleuon gan gofio mai Presbyter neu Anglican a fydd debycaf o'u beirniadu. Nid teg, er hynny, tybio mai unig ddiddordeb yr Annibynwyr oedd bod yn wahanol. Mynnent mai Annibyniaeth a geid pe gwthid egwyddorion y Diwygiad Protestannaidd i'w diwedd rhesymegol. Eu balchder oedd y ceid yn eu cyfundrefn hwy drefn eglwysig gymwys i'r uniongrededd Brotestannaidd a lywyddai eu diwin- yddiaeth. Ymarswydent rhag cael eu cyfrif yn Ail- Fedyddwyr penboeth neu'n fîanaticiaid a fynnai wyrdroi pob trefniadaeth eglwysig. Rhoddent gymaint pwys ar ffurf yr eglwys weledig ag ar ddim arall yn eu diwinyddiaeth, a hyn yn hytrach nag anghydwelediad dogmatig a'u troes yn Ymneill- tuwyr.