Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

restru Pugh fel Presbyteriad o ran ei gredo ddiwinyddol, a'i syniad am drefn eglwys i fesur hefyd. Ceir enghraifft o'r olaf yn y ffûrf a gymerth i ordeinio Owen Davies a James Davies, dau o blant y Cilgwyn y cyntaf yn weinidog yng Nghrofft-y-cyff Ordained by fasting and prayer and laying on of the hands of the presbytery who were the Revd. Messrs. James Lewis, Philip Puw, Christmas Samuel, John Harries, Thomas Morgan of Llanwrtyd, John Lewis, Owen Rees." Felly y derllyn cofnodiad mewn hen lyfr eglwys a berthyn i Esgerdawe, a gwelir wrtho bod cymdogion Pugh yn y weinidogaeth yn ei gynorthwyo i gynnal rhyw fath ar bresbyteriaeth, o leiaf, ynglŷn ag ordeinio. Rhydd y dyfyniadau a godwyd gan D. Morgan, Llanfyllin, o'r Dyddiadur olau clir ar y modd y syniai Pugh am Arminiaeth fel y'i coleddid gan Jenkin Jones, Llwynrhydowen. Yn 1744 ysgrifennai Yr wyf yn edrych arnaf fy hun yn y dyddiau hyn fel wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun canys y mae llawer o'm cyfeillion, y rhai yr hoffaswn eu cymdeithas yn fawr, wedi myned yn mhell i ochr y ddyfais newydd mewn crefydd, fel y gelwir hi, yr hon, yr wyf yn dra sicr yn fy meddwl, nad ydyw yn drefn Duw oblegid y mae yn eglur i mi ei bod yn ddyfais sydd yn codi ac yn gosod dyn i fyny yn achubiaeth pechadur, yn lle golud gras fy Nuw. Ac nid wyf yn gweled fod neb o'i pheidwyr yn dangos y mesur lleiaf o nefolrwydd meddwl, a'r sobrwydd, y difrifoldeb, a'r symledd duwiol sydd yn gweddu i efengyl Crist, ond ymsuddant i ysbryd y byd hwn, ac i ysgafnder a dideimladrwydd calon tuag at ymar- feriadau pwysicaf crefydd. Ie, y maent yn amcanu dymchwelyd ffydd yr efengyl trwy eu chwedlau cyfrwysgall.I6 Llwynrhydowen oedd canolfan Arminiaeth ymhlith yr eglwysi ar y pryd, a Jenkin Jones oedd yr arloesydd. Bu ef farw yn 1742, a sefydlwyd ei olynydd, Dafydd Llwyd, ymhen tair blynedd, ond fe geir i Pugh ymesgusodi rhag bod yn bresennol yn ei urddiad.1? Erbyn hyn yr oedd y mudiad yn lledu ymhlith eglwysi'r cylch, a chawn Pugh yn galaru uwch y peth yn y dyfyniad a ganlyn Mae fy meddwl yn dra thrallodus a therfysglyd yn y dyddiau hyn, wrth glywed a deall am gyflym rediad Arminiaeth ac Ariaeth yn yr eglwysi, a'r cefnogrwydd y mae yr egwyddorion hyn yn gael oddi wrth y weinidogaeth yn mysg pobl fy ngofal. Y maent yn ymollwng dan ddylanwad y cyfryw egwyddorion i ysbryd deddfoldeb, a difaterwch o bethau pwysicaf crefydd,-nes y maent