Skip to main content

Eglwysi Henllan a Rhydyceisiaid. MATHIAS MAURICE A "DADL HENLLAN. I. TYNNWYD fy sylw at y ddadl hon wrth glywed fy rhieni, ers llawer blwyddyn bellach, yn sôn am dani, ac yn coffau enw Mathias Mau.rice ynglŷn â hi. Ar ymweliad a chymdogaeth Henllan, ychwan- egwyd at fy niddordeb ynddi, pan gefais gopi o'r llyfr He rhydd Maurice hanes ei ran ef a'i gyfeillionyn yddadl. Yr wyf yn ddyledus i Mr. J. Lloyd Jones, Wernlegos, am fy nghopi o'r llyfr gwerthfawr hwn sydd erbyn hyn yn bur brin. Nid oes gopi ohono yn y Llyfrgell Genedl- aethol. Cyhoeddwyd ef yn 1727 fel atodiad i lyfr Maurice ar Y Wir Eglwys o dan y teitl a ganlyn Y Wir Eglwys yn cyrchu att y nod nefol Ynghadernid y tragywyddol Dduw. Lle mewn rhan y gwelir Gwendid a gwaith a gobaith y Crediniol. A gwir allwedd i'r Ystyriol i agoryd llyfr y Dat- cuddiad. At yr hyn y chwanegwyd byr hanes Eglwys Rhydyceished yn eu neulltuad o Henllan, 170/f. Gan Matthias Maurice." Cyhoeddwyd ateb i Fyr Hanes Maurice gan Mr. Jeremi Owen yn 1732, o dan y teitl Golwg ar y Beiau y sydd yn yr Hanes a Brintiwyd ynghylch Pedair neu Bump Mlynedd i nawr, ym mherthynas i'r Rhwygiad a wnaethpwyd yn Eglwys Henllan, yn y blynyddoedd 1707, 1708, 1709. Caerfyrddin, Argraphwyd gan N.T. a J. W. 1732-3 Ychwanegodd yr Athro D. Morgan Lewis, Aberystwyth, lawer eisoes at ein gwybodaeth am eglwysi Annibynnol Sir Gaerfyrddin, a diolchwn iddo am yr argraffiad o'r Byr Hanes a geir ar dud. 41 o'r Cofiadur hwn, ac am y drafodaeth a ganlyn fel rhagymadrodd iddo.