pethau eraill, rhai gwahaniaethau rhwng Wallace a Darwin ynglyn a'r mecanwaith a honnir sy'n peri'r broses esblygiadol. Dyfynnir o lyfr Wallace, Darwinism, lie mae Wallace yn llym feirniadol o'r rheini sy'n credu fod 'gwenwyn yn meddu ar ddawn fathemategol.' (t.60) Campus. Ond yn yr un bennod sonir am Wallace ei hun yn dadlau dros ddynwarededd. Ymddengys i mi fod y math o ddynwarededd y sonir amdano yma, fel y 'Pieridae yn gwisgo mantell yr Heliconidae', (t. 103), a hynny er mwyn achub ei chroen ei hun, yr un mor intelectol soffistigedig a gwneud mathemateg- yn enwedig os yw'r gymhariaeth a chreaduriaid-cysyniadau a ymddengys i mi sy'n hollol anaddas i'w defnyddio mewn cyd-destunau fel hyn. Yn anffodus, fe'u defnyddir yn gyson gan fiolegwyr yn y maes, ac anwybyddir y gwahaniaeth pwysig rhwng 'achos' a 'rheswm'. Ar y llaw arall, ceir cyferiadau cyson at y cysyniad gwrthgyferbyniol hollol sef at 'weithgareddau dall detholiad naturiol' (t.l 17), sy'n awgrymu mai achosol a mecanyddol yw'r holl broses esblygiadol. Onid oes amwysedd difrifol yn y fioleg yma? Yng nghorff y llyfr enwir nifer helaeth o esblygwyr y cyfnod, nid yn unig o Brydain ond o wledydd cyfandir Ewrop, megis Ffrainc a'r Swistir, yn ogystal. Ai cyd-ddigwyddiad ydoedd fod cymaint o naturiaethwyr ar yr un trywydd damcaniaethol? Gellir ehangu'r cwestiwn a gofyn paham yr oedd cymaint o feddylwyr eraill, a diddordebau intelectol gwahanol, hefyd yn son am esblygiad? Ai cyd-ddigwyddiad oedd fod Marx wrthi yr un pryd yn son am esblygiad cymdeithas? (Ac, ar adegau, mor debyg yw syniad Marx a Wallace. Er enghraifft, y maent ill dau yn gweld dyn fel ffrwyth proses esblygiadol, ond, yn namcaniaethau'r ddau, y mae dyn wedi cyrraedd y safle lie gall reoli'r grymoedd a'i cynhyrchodd. Yng ngeiriau Wallace, 'y mae Dyn wedi dianc rhag detholiad naturiol wedi amddifadu Natur o beth o'r gallu.' (t.l 17).) Nage wir, nid cyd-ddigwyddiadau sydd yma. 'Roedd y syniad o ddatblygiad, o newid er gwell, wedi meddiannu meddwl Ewrop yn gyfan-a hynny oherwydd dylanwad Hegel a Hegeliaeth arno. Ni lwyddodd yr un ddisgyblaeth intelectol osgoi dylanwad Hegeliaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ac, o ystyried hyn, nid oes cymaint o arwyddocad i'r ddadl ynglyn a phwy a luniodd ddamcaniaeth esblygiad biolegol gyntaf, gan mai addasiad o fetaffiseg i'r maes biolegol yw'r cyfan. Hwyr neu hwyrach, byddai rhywun wedi dod i'r un casgliad biolegol. Mae'n rhyfedd nad yw cyn-lywydd Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion yn crybwyll hyn. Yn ddiddorol, y mae'n crybwyll y bardd intelectol (t.70) gan ein hatgofio fod 'elfennau esblygiadol cryf' yn Paracelsus. Ac un o edmygwyr mwyaf gwaith Browning, ac awdur llyfr cyfan amdano, oedd prif ladmerydd Cymru o un fersiwn ar Hegeliaeth, sef yr athronydd Syr Henry Jones.