a dirywiad maes glo de Cymru yn ystod y ganrif ar 61 1850. Ffurfio'r gymdeithas neilltuol hon fyddai'n gyfrifol am sefydlu'r delweddau stoc o Gymreictod a welir yn ami tu allan i Gymru o hyd- y Cymoedd', corau meibion, rygbi, undebaeth lafur filwriaethus-sy'n ymddangos yn gynyddol amherthnasol i Gymru'r 1990au. Sylfaen y ddelwedd, fel y dengys Hywel Teifi Edwards yn y llyfr treiddgar hwn, yw'r glowr arwrol, rhinweddol oes Victoria. Hyd yn hyn, rhoddwyd cryn sylw i'r ddelwedd o'r glowr a'i gymdeithas a geir yn ffilmiau a llenyddiaeth Eingl-Gymreig y cyfnod ond, cyn cyhoeddi'r gyfrol hon, ni chafwyd astudiaeth drwyadl o'r ffordd y'i porteadwyd yn y Gymraeg. A defnyddio iaith y glowr ei hun, mae'r awdur wedi agor ffas newydd mewn gwythien werthfawr. Thema ganolog y llyfr yw methiant diwylhant Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gynhyrchu llenor gyda'r weledigaeth a'r ddawn i gyfleu yn ei waith creadigol realiti cyflawn bywyd y coliar, realiti a oedd yn sobor o boenus oherwydd y damweiniau mynych ac anafiadau cas a fu'n nodwedd rhy amlwg o fywyd bob dydd y cymunedau glofaol. Ar 61 cyfres o streiciau yn y 1870au yn diweddu gyda sefydlu'r Raddfa Lithrig, a thrychinebau Tynewydd ac Abercarn, byddai'n fwyfwy anodd i lenorion siglo delwedd y glowr fel 'arwr dioddefus' a chynheiliad cytgord cymdeithasol. Bwlch pwysig yn y traddodiad o ysgrifennu creadigol yw hwn oherwydd mewn llai na deugain mlynedd byddai'r Gymraeg yn peidio a bod yn iaith bob dydd y mwyafrif mewn nifer helaeth o gymunedau glofaol. Mynn yr awdur nad cyd-ddigwyddiad oedd dirywiad y Gymraeg yng nghymoedd dwyreiniol a chanolig y maes glo yn y degawdau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ag ymlediad sosialaeth. Saesneg oedd iaith herio'r drefn, meddid, tra bod y Gymraeg yn iaith cymodi a chadw trefn. Purion. Ond tybed ai honni gormod am rym cynhaliol llenyddiaeth yw awgrymu y gallasai magu delwedd amryfath o'r glowr leddfu'n sylweddol ar effeithiau'r mewnlifiad enfawr o Loegr ar droad y ganrif? Mae hi'n bosibl y byddai creu delwedd o'r math wedi llwyddo i arafu'r dirywiad rhyw fymrym (yn achos enwog teulu'r nofelydd Gwyn Thomas o'r Rhondda, er enghraifft), ond mae'n amheus gennyf a fyddai hunanddelwedd fwy positif wedi gwrthweithio'r symudiadau demograffig didostur a oedd ar gerdded yn y maes glo. Serch hynny, rhaid cydnabod mai cymhlethdod y ffactorau a gyfrannai at newid ieithyddol yn y cyfnod hwn sy'n drawiadol a dylai haneswyr rhoi ystyriaeth fanylach a llawn i'r ddadl hon yng nghyd-destun ffactorau cymdeithasol eraill. Nid pob awdur oedd a'i fryd ar ddiystyru gwirionedd anesmwyth bywyd y coliar a'i deulu, ond mae'r eithriadau (fel Gwenallt a Kitchener Davies) yn cadarnhau'r darlun cyffredinol. Pan geisiodd Kitchener Davies bortreadu mewn termau cignoeth y wasgfa greulon ar deuluoedd y di- waith yng Nghwm Rhondda yn ei ddrama Cwm Glo, a ysgrifennwyd ar