patronage Griffiths has greatly illuminated by some important documentary discoveries. Indeed, the range and variety of these studies is eloquent of extensive research into archives, central and local, in England and America. Even Griffiths occasionally nods, and it is regrettable that the reprinting has perpetuated erroneous deductions arising from two misreadings, to which attention has already been drawn in print. These concern the interpretation of a Commons petition in 1426 on the 'king's widows' (pp. 106-7, 112) and the implications of the Huntingdon Library manuscript for the debate in the Winchester parliament of 1449 on the defence of Normandy (pp. 260, 262). In each case the reader should refer to the further reading listed at the end of these pieces. G. L. HARRISS Magdalen College, Oxford GWAITH LLYWARCH AP LLYWELYN PRYDYDD Y MOCH. Golygwyd gan Elin M. Jones, gyda chymorth Nerys Ann Jones. Cyfres Beirdd y Tywysogion, Cyfrol V. Gwasg Prifysgol Cymru, 1991. Tt. xxxviii, 347. £ 35.00. Ers rhai blynyddoedd y mae tim o ysgolheigion yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, dan arweiniad yr Athro Caerwyn Williams a'r Athro Geraint Gruffydd, wedi ymgymryd a'r gwaith o olygu holl ganu'r Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion. Y mae'r gyfrol hon, wedi ei seilio ar draethawd PhD Dr. Elin M. Jones, gyda chymorth Dr. Nerys Ann Jones, yn flaenffrwyth y gwaith; hyd yn hyn yr oedd rhaid i ni ddibynnu ar destunau Llawysgrif Hendregadredd a Gwenogvryn Evans i gyrraedd corff o farddoniaeth sy'n ffynhonnell hynod o werthfawr i'r rhai sy'n astudio hanes Cymru yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg. Brodor o gantref Rhos yn y Berfeddwlad oedd Llywarch ap Llywelyn neu Brydydd y Moch ac yn yr ardal honno oedd y tiroedd a roddwyd iddo, y mae'n debyg, gan ei brif noddwr, Llywelyn ab Iorwerth. Mewn stentau o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ceir cyfeiriadau at Wely Prydydd y Moch yn nhrefgordd Wigfair a Gafael Prydydd y Moch yn nhrefgordd Branar yn Llangernyw ar diroedd Esgob Llanelwy. Y mae'r rheswm am ei lysenw yn ddirgelwch llwyr. Cysylltir y bardd, yn anad dim, a theulu brenhinol Gwynedd; fe ganodd i Ddafydd a Rhodri ab Owain Gwynedd, i Gruffydd a Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd ac, yn arbennig, i Lywelyn ab Iorwerth. Ceir cyfoeth o gyfeiriadaeth hanesyddol yng nghanu'r Prydydd ac weithiau gellir mentro dyddio rhai o'i gerddi oherwydd hyn. Gellir awgrymu y cyfansoddwyd ei awdl odidocaf, y Canu Mawr i Lywelyn ab Iorwerth, er enghraifft, ar 61 i'r tywysog gipio Rhuddlan a Degannwy yn 1213. Dyma awdl sy'n dathlu holl fuddugoliaethau Llywelyn hyd at y flwyddyn honno a hawdd yw dychmygu ei heffaith ar y gynulleidfa pan ddatganwyd hi am y tro cyntaf yn neuadd y tywysog. Ond codir llawer o gwestiynau i'r hanesydd gan gynnwys hanesyddol y canu; yn ami iawn cyfeiria'r bardd at frwydrau neu ddigwyddiadau na cheir unrhyw gyfeiriad atynt mewn