at y dogfennau yn ofalus a manwl yn ei chyflwyniadau. Y mae'r gyfrol hon are raddfa llawer mwy manwl na dwy gyfrol arall y gyfres. Amheuaf a yw'r clawr Iliain yn ddigon cryf i gyfrol o'r maint, yn enwedig o'i defnyddio'n gyson o dan amodau ysgol. Gwaith y golygydd ei hun yw'r gyfrol ar Cyffro Cymdeithasol yng Nghymru 1800-circa 1843. Y mae ei rhagymadrodd a'r cyflwyniadau yn dangos dawn i grynhoi yn fedrus a theg. Ond y mae rhai bylchau yn y llyfr. Er cyfeirio ar y dudalen gyntaf at 'y papurau newydd' ymhlith pethau eraill, yn lledaenu 'dylanwadau cenedlaethol a rhyngwladol', nid eglurir bwysigrwydd y wasg gyfnodol Gymraeg na'r papurau newydd lleol Saesneg. Dyfynnir o'r Cambrian, Monmouthshire Merlin, o Seren Gomer a'r Haul heb ddweud yr un gair am eu safbwyntiad na phwy oedd eu darllenwyr. Ac oni ddylid crybwyll enw David Rees a'r Diwygiwr yn ogystal a Twopenny Trash Cobbett? Bydd angen cyfarwyddyd yr athro cyn y medr y disgyblion roi'r pwys priodol ar y ffynonellau a ddyfynnir. Gall y cyfeiriad ar tud. 52 at dalu'r degwm brofi'n gamarweiniol. 'Yn 61 y gyfraith perchennog y tir a ddylai dalu'r degwm ond codai yntau dâl ar ei denantiaid gan ei gynnwys yn y rhent a dalent am eu tir.' Beth bynnag y sefyllfa gyfreithiol yr oedd y tenant yn gorfod ei dalu yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Deddf 1891 a wnaeth y tirfeddianwyr yn atebol am y degwm, ac er iddynt ei basio ymlaen yn y rhent wedyn ystyrid hyn yn welliant am nad oedd yn rhaid i'r tenant Anghydffurfiol ymwneud yn uniongyrchol a'r talu. Yn y cyfnod o dan sylw nid i'w feistr tir ei hun y talai'r tenant o reidrwydd y degwm, e.e. yr oedd fy hynafiaid a ffermiai ym mhlwyf Llangatwg Nedd yn talu'r rhent i Arglwydd Dinefwr ond y degwm yn rhannol i Capel Hanbury Leigh, Ysw., gyda chyfran llawer llai i'r ficer. Ar wahan i Siartwyr glannau Hafren a llythyr o'r Wyddgrug ar ddechrau'r gyfrol, rhoddir y sylw i gyd i Dde Cymru. Byddai trafod cau'r tiroedd comin yn gyfle i gynnwys dogfennau o ddiddordeb i blant llawer ardal; dogfen hwyrach yn cyfeirio at ymgyrch lwyddiannus tyddynwyr Mynydd y Cilgwyn yn 1826 yn erbyn Arglwydd Newborough, neu at 'Rhyfel y Sais Bach' yn Sir Aberteifi yn yr un cyfnod. Protest yn erbyn cau oedd i raddau helaeth tu 61 i ymweliadau Beca ag ardal Rhaeadr Gwy, fel y dylid ei gynnwys yn elfen yn y cyffro cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd hyn. Yn ail gyfrol y gyfres, Addysg yng Nghymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, crynodeb fras iawn a geir yn y rhagymadrodd ac ar y cyfan yn y cyflwyniadau i'r dogfennau, er bod yr iaith yn aml yn gwmpasog a llac. Ni lwyddir i egluro'n foddhaol safbwynt yr Anghydffurfwyr yn y cyfnod cyn 1853; ni sonnir am yr ysgolion a sefydlwyd gan y 'South Wales Education Committee' rhwng 1843 a 1846. Y mae cyfeiriad gan Hugh Owen at Gymdeithas y Gwirfoddolwyr yn ei lythyr a gynhwysir fel Dogfen 8, ond nid yw'r awdur yn cyfeirio at Ddogfen 8 o gwbl! A ymlaen yn y bennod ar sefydlu colegau hyfforddi i roi'r clod am sefydlu'r coleg Normal yn Aberhonddu yn 1845 i'r Gymdeithas Frytanaidd yn lie i'r Gwirfoddolwyn. Safbwynt Hugh Owen ar y pryd oedd mai gwell ydoedd i'r athrawon Cymreig fynychu'r Borough Road.