termau eu hunain, yn 61 y galw, wrth ysgrifennu yn Gymraeg ar Hanes. Yr oedd llawer o'r termau hynny'n rhai campus (a da yw gweld bod golygyddion Termau Hanes wedi derbyn llawer o'r rheini), ond an fodd- haol, wrth reswm, oedd bathu damweiniol a di-drefn yn y modd hwn. Rhaid oedd cael panel o arbenigwyr i drafod a dethol ar sail egwyddorion cydnabyddedig, a chytuno (ar 61 tipyn o anghytuno, yn ddiau) ar dermau addas. Y mae rhai pethau y carwn sylwi arnynt. Dywedir yn y nodyn rhagarweiniol i'r rhestr: fe ddisgwylir i'r sawl a'i defnyddia droi at eiriaduron diweddar hefyd, yn enwedig ynglyn a geiriau diamwys eu hystyr a phethau fel cenedl a ffurf luosog yr enwau'. Credaf mai mantais fawr fuasai nodi cenedl a ffurf luosog pob enw. Arbedai hynny lawer o drafferth i bawb a ddefnyddia'r llyfryn, ac ychwanegai'n sylweddol at ei werth. Heblaw hynny, yn ofer y chwilir mewn geiriaduron diweddar am lawer o'r enwau sydd yn y rhestr, a thybiaf mai dyletswydd y golygyddion oedd rhoddi arweiniad ar genedl a ffurfiau Iluosog enwau newydd. Mae'n wir y nodir ffurfiau Iluosog llawer o'r enwau (nid y rhai anhawsaf bob tro), ond ni welaf paham na ddylid gwneud hyn a phob enw. Mae'n debyg na fydd pawb yn cytuno bod yr arbenigwyr wedi taro ar y gair gorau bob tro, a diau y gellid dadlau'n hir a brwd ynghylch nifer o'r geiriau. Dichon, yn wir, fod modd i wella ar gynigion fel admisiwn, alegasiwn, grens (sy'n swnio'n anhyfryd iawn i mi), manor, ac eraill, a dichon hefyd fod gwedd ry Seisnigaidd ar rai o'r termau; ond pan eir ati i feddwl am rai gwell, mae'n rhaid cyfaddef nad gwaith hawdd ydyw, os ydys i osgoi amwysedd. Ni allaf, serch hynny, ddeall paham y gollyngir yr 'e' ganol ynffedral affedraliaeth, o'i chadw ynffedereiddio affederasiwn (t. 25); tybiaf y dylid anelu at gysondeb yn y ffurfiau hyn rhag ychwanegu'n ddianghenraid at anawsterau ysgrifenwyr. Mantais hefyd fyddai nodi, pan gynigir mwy nag un ffurf ar derm (yn yr un ystyr i'r term, wrth gwrs) pa un a dybir yn orau. Llithrodd ychydig o fan wallau argraffu i mewn i'r gwaith. Sylwais ar disbribution yn lie distribution (t. 20), gwyr yn lIe gwyr (t. 34), a llyngeszdd yn He llyngesydd (t. 36). Tybed ai gwall argraffu yw rhôl rhent (t. 45) ? Gan mai 'rheol' yw rhol, dylid darllen rhol rhent (neu'n well, efallai, rhestr rhenti). Fel y dywedir yn y nodyn rhagarweiniol, y mae Hanes yn bwnc mor eang fel na ellid, o fewn terfynau llyfryn o'r math hwn, gynnwys pob term y bydd ei angen ar haneswyr. Y mae, serch hynny, wir angen am dermau Cymraeg ar bynciau fel hanes eglwysig, pensaerniaeth, herodraeth, y gyfraith, etc., cyn y gellir traethu'n llawn ar Hanes. Mawr hyderaf y bydd modd trefnu'n fuan i gyhoeddi'r rhestri hynny. Yr ydym dan ddyled drom i'r arbenigwyr a luniodd y rhestr hon. Y ffordd orau i fynegi ein diolch fydd drwy ddefnyddio'n gyson y termau