Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhestr y darlithwyr a'r testunau yn drawiadoP Er i'r ddarlith hanes ddod i ben erbyn hyn braf oedd gweld rhifyn arall o Bathafarn yn dod o'r wasg yn ddiweddar. Dau ddyn a ddaeth yn amlwg yn y Gymdeithas Hanes oedd Eric Edwards a Griffith Thomas Roberts. Camp Eric Edwards oedd cynhyrchu llyfr cyfeiriol hynod o werthfawr, sef Yr Eglwys Fethodistaidd: Hanes Ystadegol, sy'n llawn o wybodaeth ddefnyddiol dros ben i'r hanesydd. Gŵr ysgolheigaidd oedd Griffith Thomas Roberts a oedd yn ail olygydd Bathafarn. Fe a gyfrannodd y bennod ar Fethodistiaeth yng Nghymru yn yr hanes safonol,A History of the Methodist Church in Great Britain. Mae'r gyfrol goffa i Griffith Thomas Roberts, a olygwyd gan Dr Owen Evans, yn cynnwys erthyglau diddorol gan rai amlwg ymysg y Methodistiaid Cymraeg heddiw. Wrth reswm, nid oes gennyf amser yma i gyfeirio at holl gyhoeddiadau'r Llyfrfa, heb sôn am y llyfrau eraill a gyhoeddwyd gan Fethodistiaid trwy weisg eraill. Ond mae'n bwysig inni gofio mor eang oedd ystod y cyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan y Llyfrfa. Er mwyn cwrdd ag anghenion y gwaith fe gyhoeddwyd esboniadau ar yr ysgrythurau, tractau, cyfrolau o bregethau, cyfrolau o ysgrifau, cofiannau a hunangofiannau, a storïau, ynghyd â phob math o gyhoeddiadau bychain ar gyfer plant, aelodau'r ysgol Sul, myfyrwyr, a darllenwyr cyffredin yn egluro'r ffydd Cristnogol yn ôl dealltwriaeth yr Eglwys Fethodistaidd. I gloi, hoffwn ddod yn ôl at y geiriau hynny gan John Wesley a ddyfynnais ar ddechrau'r sgwrs fach hon. Dywedodd Wesley: 'The work of grace would die out in one generation if the Methodists were not a reading people.' Y cwestiwn sydd gennyf yw hyn: a ydym ni fel Methodistiaid heddiw yn parhau i fod yn bobl sy'n darllen, yn ystyr Wesley o ddarllen er mwyn dysgu, meddwl a deall? Os nad ydym, mae rhybudd clir i ni yn ei eiriau. Lionel Madden Aberystwyth 1. Dyfynnwyd gan Frank Cumbers yn The Book Room (London: Epworth, 1956), t.5. Mae pennod cyntaf y llyfr ar Wesley and literature' yn cynnwys dyfyniadau eraill sy'n dangos mor bwysig i Wesley oedd yr arfer o ddarllen. 2. Ceir trafodaeth ar y perthynas rhwng Yr Eurgrawn a'r Methodist Magaúne yn Lionel Madden, 'Blynyddoedd cynnar Yr Eurgrawn', YrEurgrawn, 174 (1982) 52-8. 3. Ceir manylion llawn am y golygyddion, cyhoeddwyr, argraffwyr etc., ynghyd â gwybodaeth am newidiadau teitl ac is-deitl YrEurgrawn yn Huw Walters, Lìyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735- 1850 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993) tt.32-4. 4. Am hanes y Llyfrfa gw. Eric Edwards, 'Llyfrfa'r Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg', Bathafam 22 (1967) 8-23. 5. gw. Brynley F. Roberts, 'The Connexion in print', Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd 16/17 (1992/93) 9-31. 6. E.H. Griffiths, 'Bywyd a gwaith Lot Hughes' Bathafam 29 (1977-86) 2-147. 7. Ceir rhestr o'r darlithwyr a'r testunau yn Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd: hanes ystadegol (Llandysul: Gomer, 1980), t.62; acAtodiad (1987), t.13.