Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CASGLIAD AF MORTIMER Ymhlith y casgliadau hynny yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n cyflwyno gwybodaeth werth- fawr am adeiladau capeli, un o'r rhai mwyaf pwysig yw Casgliad AF Mortimer. Peiriannydd proffesiynol oedd galwedigaeth Commander AF Mortimer, a gwasanaethodd ef yn y Llynges Brydeinig am gyfnod o dros ddeng mlynedd ar hugain. Fe'i ganed yn Lewisham, Llundain, ond symudodd gyda'i ysgol i Landybie, Sir Gaerfyrddin, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyfeiriai'n aml at ei gysylltiad cynnar gyda Chymru yn ystod y cyfnod hwn, a hefyd ei fwriad gwreiddiol i sicrhau hyfforddiant yn bensaer. Adlewyrchwyd cyfuniad o ddawn artistig a phwys- lais digyfaddawd ar gywirdeb a manylder yn y gyfres o gynlluniau a brasluniau a baratowyd ganddo o adeiladau capeli yng Nghymru. Yn dilyn ei ymddeoliad o'r Llynges symudodd i fyw yn ardal Llanfyllin. Datblygodd ei ddiddordeb mewn pensaernïaeth capeli, a bu'n aelod gweithgar o CAPEL, Cymdeithas Treftadaeth y Capeli, gan wasanaethu fel Trysorydd Mygedol. Ceisiodd ennyn diddordeb yng ngwaith y gymdeithas, a chodi arian drwy gynhyrchu papurau nodiadau (notelets), yn seiliedig ar ei frasluniau ef ei hunan. Bu'n barod iawn hefyd i gefnogi ymdrechion capeli lleol i godi arian drwy eu cynorthwyo gydag ymdrechion cyffelyb. Yr oedd ei frasluniau cynnar wedi canolbwyntio ar yr ardal o amgylch ei gartref yn Llanfyllin, gydag ychydig o enghreifftiau o gapeli mewn ardaloedd eraill a gofnodwyd naill ai wrth iddo ymateb i fygythiad i'w bodolaeth neu yn dilyn ymweliadau a drefnwyd gan gymdeithas CAPEL. Yn raddol rhoddodd sylw cynyddol i gapeli Sir Feirionnydd fel canlyniad i'w weithgarwch ynglyo ag arolwg peilot o'r sir honno. Trefnwyd yr arolwg yn ystod 1992-93 gan Is-bwyllgor Cofrestr CAPEL gydag ef yn Ysgrifennydd brwd ag egnïol, a'r bwriad oedd penderfynu'r dull gorau o baratoi rhestr lawn o gapeli Cymru. Bu'n cynorthwyo swyddogion capeli lleol i lenwi holiaduron, ac yn paratoi arolygon a brasluniau wedi'u mesur yn ofalus. Cyd-weithredai'n agos gyda'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru, a gwirfoddolodd i ymgymryd â gwaith cofnodi ffotograffig gan ddefnyddio'r ffilm a'r cyfleusterau a gynigiwyd gan y Comisiwn. Canlyniad y gwaith hwn oedd gosod ar adnau gasgliadau sylweddol o brintiau ffotograffig yn y Comisiwn, Llyfrgell Genediaethol Cymru a'r archifdy perthnasol. Ar yr un pryd roedd Commander Mortimer yn cyflwyno yn gyson i'r Llyfrgell y brasluniau hynny a ffurfiai gasgliad yn cynnwys dros dri chant o eitemau, ynghyd i chyfrol rwymedig yn cynnwys copiau o frasluniau cynnar amrywiol a chofnodion a disgrifiadau perthnasol. Trosglwyddwyd y copiau yn 1989, a'r brasluniau yn ystod y cyfnod 1990-1994. Roedd y mwyafrif ohonynt, a gynhyrchwyd mewn inc a dyfrlliw, yn darlunio gweddlun blaen ac ystlys adeilad y capel, gyda'r cynllun daearlawr. Cyn paratoi'r brasluniau, roedd y capeli wedi eu harchwilio a'u mesur yn ofalus wrth raddfa. Eglurodd Commander Mortimer ei ddulliau gweithio mewn dau rifyn o'r Cylchfythyr a ddosberthir gan CAPEL, sef rhif 6 (1988) a rhif 24 (1994), ond nid yw'n sôn am y technegau medrus, na'r safon uchel artistig, asthedig sydd mor nodweddiadol o'i waith. Wedi canolbwyntio yn bennaf ar siroedd Trefaldwyn a Meirionnydd bwriadodd