ACHOSION BACH SAESNEG Y WESLEAID YN SIR GAERNARFON Er cymaint y cysylltiadau sydd rhwng Wesleaeth Gymraeg a'r Cyfundeb Saesneg ei drefni- adaeth, ac yn wir er cymaint rhwystredigaeth John Wesley nad oedd yn gallu pregethu yn iaith pobl Cymru ac yn gorfod cyflawni ei genhadaeth yn Saesneg, a hynny felly heb gael cymaint o effaith a'r hyn a gafwyd mewn mannau eraill, mae'r enwad yn yr hen Wynedd wedi tyfu ac wedi aros yn Gymraeg iawn ei natur. Hyd yn oed heddiw, heblaw am y Capel Saesneg ym Mangor, a llinell o gapeli Saesneg yn ymestyn tua'r dwyrain yn y trefi glan mor, rhyfeddol o ychydig yw'r capeli neu'r cymdeithasau Wesleaidd sydd yn, neu wedi, bodoli yng ngweddill y Gogledd-Orllewin a hynny er gwaethaf y niferoedd dihysbydd o dwristiaid a mewnlifwyr sydd wedi dod i Ogledd Cymru dros y blynyddoedd. I raddau, mae'n debyg, y trefniant cylchdeithiol a wahanai'r 'Saeson' oddi wrth y Cymry oedd wrth wraidd hyn, fel nad oedd y cylchdeithiau Cymraeg eu hiaith yn teimlo fod arnynt gyfrifoldeb i ddarparu ar gyfer eu brodyr di-Gymraeg yn wahanol iawn i'r Methodistiaid Calfinaidd, a ystyriai fod ganddynt gyfrifoldeb i ofalu am eneidiau'r di-Gymraeg trwy gychwyn achosion Saesneg, dichon oherwydd i'r capeli Saesneg ddod o dan awdurdod yr un cyfarfodydd misol.1 Ceisiwyd cyfuno'r gwaith Saesneg efo'r gwaith Cymraeg yn Sir Gaernarfon am ychydig yn 1830, trwy uno cylchdaith (Saesneg) Bangor efo cylchdaith (Cymraeg) Caernarfon, ond byrhoedlog iawn fu'r arbrawf, a rhannwyd y gylchdaith unedig yn ôl yn ddwy y flwyddyn ganlynol.2 Ym mlynyddoedd cynharaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r Genhadaeth Gymreig ar droed dan ddylanwad Ysgrifennydd y Gynhadledd, y Dr Thomas Coke o Aberhonddu, yr oedd Cylchdaith Caernarfon ymysg y cynharaf i'w cael eu sefydlu, yn 1803.3 Er bod llawer o bregethu Cymraeg, yr oedd yna gynulleidfa barod ymysg y garfan fechan o Saeson a breswyliai yn y dref, fel yr adroddodd Owen Davies yn 1810: I spent a few days in Caernarvon, and was much pleased with the large congregation of English hearers. There is now a large English class, and an English prayer meeting once a week; but the English scarcely ever hear an English sermon. Without doubt a little English preaching would be useful in all the principal towns in North Wales.4 Erbyn yr 1820au, yr oedd Wesleaeth Gwynedd ar seiliau cadarnach, yn y ddwy iaith yn wir. Lle 'roedd y Saeson yn y cwestiwn, 'roeddynt wedi mentro codi capel bach ger Ebeneser, y capel Cymraeg yng Nghaernarfon; a dim ond pum mlynedd yn ddiweddarach, er nad oedd yr aelodaeth eto wedi cyrraedd 40, cymerwyd y cam mawr o godi capel sylweddol ar dop Stryd Llyn, y prif lon allan o'r dref i gyfeiriad Pwllheli. Mae'r capel yn dal i sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Siop Curry's. Tua'r un amser, yr oedd y Gymdeithas ym Mangor yn cryfhau, a chodwyd capel Saesneg yn Stryd James, am gost o bron i £ 450. Am flynyddoedd lawer, fe elwid y gylchdaith Saesneg yn Gylchdaith Caernarfon a Bangor,5 gan fod y ddwy eglwys yn debyg o ran nifer. Arferai'r gweinidog fyw yng Nghaernarfon tref a ddisgrifiwyd yn 1832 gan un o'r gweinidogion amlycaf i wasanaethu'r gylchdaith yn y blynyddoedd cynnar, y Parch.