Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES WESLEAETH Y RHYL HYD 1895 (Addasiad o ran gyntaf llyfryn i ddathlu canmlwyddiant Capel Soar, YRhyl) Yn 1802, daeth y pregethwr Wesleaidd, John Morris o Ruthun i ymweld â'i berthnasau yn yr hen Dŷ'n Rhyl, y ty hynaf, ond odid, yn y Rhyl. Fe gynigiodd bregethu pe gellid trefnu oedfa. Ni ellid trefnu oedfa yn Nhy'n Rhyl ei hun oherwydd traddodiadau, beth bynnag, am ragfamau'r lle ei hun, ond agorodd Thomas Hughes, Penyddeuglawdd, a'i briod eu drws, a chynhaliwyd yr oedfa yno. Ychydig yn ddiweddarach, pregethodd Edward Jones, Bathafarn, Rhuthun (cefnder i John Morris) a John Hughes, Aberhonddu, dau o'r tadau Wesleaidd Cymraeg, ym Mhenyddeuglawdd, ac yno sefydlwyd y gymdeithas Wesleaidd Gymraeg gyntaf yn y cylch. Yn y fferm honno hefyd y bu'r cnewyllyn o eglwys hyd 1813, pan symudodd Thomas a Mrs Hughes i'r dref, ac i Vale Road; ac yn eu ty hwy drachefn y deuai'r eglwys fechan ynghyd: rhai o'r Merllyn, Ty Newydd, Pwll Corsiog, Morfa Gwybr, a'r hynod Mrs Elizabeth Roberts a gerddai o'r King's Head, Rhuddlan; a Thomas Hughes a William Roberts yn arweinwyr. Dan ofal Cylchdaith Rhuthun a Dinbych yr oedd yr achos ar y dechrau, ond fe'i trosglwyddwyd yn fuan i ofal Cylchdaith Treffynnon. Symudwyd ymlaen ar fyrder i godi capel bychan, ac ymestyn- nwyd hwnnw yn Stryd y Gwter yn 1815; fe'i adnabyddid ef yn gyffredin fel y Capel Main. Megis ar draeth y Rhyl, llanw a thrai a fu hanes yr achos Wesleaidd yn y Capel Main. Wedi colli Thomas Hughes ac eraill, aeth y gweddill yn weddillion; ond pan briododd Jane Edwards, Y Merllyn, un o selogion y capel bach, a Richard Hughes o gyffiniau Abergele ac iddo ddod i Ferllyn i fyw, daeth tro ar rawd Y Capel Main. Fel y disgynnodd mantell Elias ar Eliseus, felly etholwyd Richard Hughes yn flaenor yn olynydd i Thomas Hughes. O weld y tai yn lluosogi a'r rhagolygon yn addawol, sefydlwyd ysgol Sul ac yn y man, mentrodd y Wesleaid godi capel newydd ar Ffordd Victoria, yn agos i'r gornel yn ymyl Vale Road: capel yn mesur 12 llath wrth 8 llath a rhoi, fel Isaac gynt, enw 'Rehoboth' ar dalcen y ty 'canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir' (Genesis XXVI, 22). Agorwyd y capel newydd ar 28 Awst 1831, a'r John Owen gwreiddiol hwnnw o'r Gyffin, Conwy, R Jeffreys, William Jones a John Hughes, Treffynnon yn gwasanaethu yn yr ŵyl. Ar 19 Medi 1836, cafodd pobl Rehoboth y fraint o groesawu Cyfarfod Cyllidol y Dalaith. Dal i dyfu oedd tref y Rhyl, ac wedi sefydlu mordeithiau o Foryd y Rhyl i Lerpwl, dechreuodd y dref ddatblygu'n ganolfan gwyliau, ac yn fwy felly pan agorwyd y rheilffordd o Gaer i Fangor a Chaergybi, gan gyrraedd Y Rhyl yn 1848. Wedi cael y llongau a'r trenau, aeth- pwyd ati i godi gwestai, i wella'r cyfleusterau ac i amlhau atyniadau ac addumiadau'r dref, a dylifodd y miloedd i'r Rhyl. Sylweddolodd pobl Rehoboth, fel pobl Bethel (MC, codwyd 1826) fod grym y boblogaeth, y tai a'r gwestai gwychaf, y siopau a'r swyddfeydd pwysicaf, ym mhen ucha'r dref, tu hwnt i'r lein a phontydd Ffyrdd Rhuddlan a Diserth, a bod eisiau capel, os nad capeli'n wir, yng nghanolbarth newydd y dref. Aeth pobl Bethel ati yn y man i godi Capel Heol Clwyd, a phobl Rehoboth i godi capel gwell a goleuach Seion yn Heol Sussex.